Datgelu canlyniadau DNA hynafiadol Angharad Mair yn fyw ar Heno
16 Ionawr 2015
Mae cyflwynydd cyfres gylchgrawn S4C Heno, Angharad Mair wedi darganfod canlyniadau ei phrawf DNA hynafiadol yn fyw ar y rhaglen Heno (Gwener 16 Ionawr) fel rhan o brosiect pellgyrhaeddol, cyffrous CymruDNAWales.
Roedd Beti George, un o gyflwynwyr y gyfres newydd DNA Cymru ar y rhaglen i ddatgelu wrth Angharad i ba haplgrŵp y mae hi’n perthyn. Mae haplgrŵp yn grŵp llinach o bobl sy’n rhannu hynafiaid cyffredin.
Llinach mam Angharad yw K – Lefantaidd
Mae gwyddonwyr yn credu bod haplgrŵp K yn deillio o’r Lefant - o lannau mwyaf dwyreiniol Môr y Canoldir, lle mae gwledydd Lebanon, Syria ac Israel heddiw. Daeth menywod cyntaf haplogrŵp K i Ewrop rhwng 9,000 a 7,000 o flynyddoedd yn ôl.
Lledodd y marciau genynnol yma drwy Orllewin Ewrop gan fenywod a ddaeth â thechnegau ffermio o’r Dwyrain Canol.
Mae oddeutu 8% o fenywod yng Nghymru yn perthyn i haplogrŵp K.
Fe wnaeth Angharad hefyd ddarganfod bod 49% o’i genom o glwstwr llinach Ogledd-orllewin Ewrop ond mae’n ddiddorol nodi bod 21% yn dod o glwstwr llinach Ashkenazi-Iddewig a 15% o’r Balto-Slafig. Mae ei chanlyniadau yn awgrymu bod yr elfen Ashkenazi-Iddewig wedi ymddangos yn ystod y 6 i 8 cenhedlaeth ddiwethaf.
Mae cymunedau o Iddewon Ashkenazi o Ddwyrain Ewrop yn Abertawe ers canol y ddeunawfed ganrif ac yng Nghaerdydd ers 1813.
Wrth ymateb i ganlyniadau'r ymchwiliad, dywedodd Angharad Mair; "Roeddwn i'n edrych ymlaen at glywed fy nghanlyniadau, yn enwedig ar ôl gwylio rhaglen Heno nos Lun pan glywon ni ganlyniadau rhai o’n gwylwyr ni. Mae’r prosiect yma yn un mor ddiddorol am fydd y canlyniadau yn dweud mwy nag os ych chi’n dod o'r gogledd neu'r de!
"Yn wreiddiol roeddwn i'n teimlo'n gryf mai Cymraes o’n i 100%, ond nawr rwy'n gwybod os ydw i’n dilyn fy llinyn teuluol nôl cwpl o ganrifoedd, nid dyna fydd y canlyniad. Yn amlwg, mae fy nghyndeidiau yn dod o dramor! Roeddwn i wedi fy syfrdanu wrth glywed bod gen i rywfaint o dras Iddewig. Rwy'n mynd i astudio ymhellach am hynny."
Fe fydd y gyfres DNA Cymru yn dechrau ar S4C cyn hir. Y cyflwynwyr fydd Beti George, Jason Mohammad a’r Dr Anwen Jones. Y nod yw defnyddio profion DNA hynafiadol i ddarganfod gwneuthuriad genetig pobl Cymru ac ateb rhai cwestiynau hanesyddol penodol.
Gwyliwch Heno eto ar-lein ar alw ar S4C Clic. Ac mae mwy o wybodaeth am CymruDNAWales ar wefan s4c.co.uk/cymruDNAwales
DIWEDD
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?