Y Byd ar Bedwar yn ennill Gwobr Deledu Trawsrywedd
02 Chwefror 2015
Mae cyfres faterion cyfoes S4C Y Byd ar Bedwar wedi ennill gwobr arbennig am raglen ar y gymuned drawsrywedd yng Nghymru. Cynhyrchir y gyfres i S4C gan ITV Cymru Wales.
Cyflwynwyd y wobr i olygydd y gyfres, Geraint Evans a'i dîm gan Jenny-Anne Bishop sydd wedi derbyn anrhydedd OBE am ei gwaith gyda'r gymuned drawsrywedd.
Dywedodd Jenny-Anne, un o noddwyr y gwobrau, bod rhaglen Y Byd ar Bedwar "yr orau ymhell ffordd yn nhermau triniaeth barchus o bobl drawsrywiol, gan amlygu'r materion pwysig mae'r gymuned yn wynebu'n ddyddiol a dangos mor gyffredin mae gymaint o'n bywydau a sut i ni'n ffitio'i fewn i'r cymunedau inni'n byw ynddynt. Cafodd Y Byd ar Bedwar mwyafrif llethol o'r pleidleisiau fel yr orau yng Nghymru yn 2014."
Mae'r wobr yn dilyn llwyddiant Y Byd ar Bedwar yng Ngwobrau BAFTA Cymru ble enillodd y gyfres y wobr am y materion cyfoes gorau am yr ail flwyddyn yn olynol.
Mae Gwobrau Teledu Trawsrywedd yn cydnabod cyflwynwyr, actorion a chynhyrchwyr positif gan wobrwyo'r rhai sydd wedi gwneud ymdrech arbennig i drin pobl drawsrywiol gydag urddas a pharch.
Meddai Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys Ffeithiol S4C, "Mae'r wobr hon yn adlewyrchu agwedd sensitif a phroffesiynol Y Byd ar Bedwar wrth drin pwnc pwysig mewn rhaglen oedd o ddiddordeb i'n gwylwyr. Dwi'n llongyfarch y tîm sy'n haeddu clod am ennill gwobr arall am eu gwaith."
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?