11 Chwefror 2015
Bydd rhaglen gylchgrawn nosweithiol S4C Heno yn gwneud apêl yr wythnos hon am ddisgynyddion Cymreig o linach frenhinol goll Prydain - y Tuduriaid.
Yn rhifyn nos Fercher (11 Chwefror) o Heno bydd dynion gyda'r cyfenw Tudor yn cael eu gwahodd i gymryd prawf gyda CymruDNAWales – prosiect sy'n rhedeg profion hynafiadol ar raddfa nas gwelwyd erioed o'r blaen yng Nghymru.
Mae'r prosiect cyffrous yn bartneriaeth rhwng S4C, CymruDNAWales, Trinity Mirror cyhoeddwyr y Western Mail a'r Daily Post – a'r cwmni cynhyrchu Green Bay Media.
Bydd cyfres S4C, DNA Cymru, yn dechrau nos Sul 1 Mawrth gyda rhaglen arbennig, yn cyflwyno siwrnai dynol ryw o'i gwreiddiau yn Affrica i drigolion cynharaf y wlad a adwaenir bellach fel Cymru hyd at ein hoes ni heddiw.
Yn y gyfres DNA Cymru, bydd y cyflwynwyr Beti George, Dr Anwen Jones a Jason Mohammad yn egluro sut mae gwyddoniaeth DNA yn gallu datgelu glasbrint genetic yn ymestyn nôl tu hwnt i hanes cofnodedig.
Er mwyn ceisio dod o hyd i berthnasau Cymreig teyrnaswyr brenhinol Tuduraidd, bydd rhaglen Heno'n rhoi 20 o becynnau poeri i ymgeiswyr tebygol.
Bydd y canlyniadau yn datgelu un ffordd neu'r llall a ydyn nhw'n perthyn i'w gilydd yn y llinach wrywol ac i ba linach maen nhw'n perthyn. Cyflwynir y pecyn cyntaf o'r 20 yn fyw ar yr awyr i Steffan Tudor, athro yn Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy, ar raglen Heno o Gaernarfon nos Fercher 11 Chwefror.
Meddai Angharad Mair, cyflwynydd Heno, "Mae'n gyffrous iawn bod y prosiect DNA yn caniatáu i ni chwilio am y rheini all fod yn perthyn i'r Tuduriaid. Gobeithio y bydd yn ffordd o ddod o hyd i rai sy'n byw yng Nghymru ac sy'n dod o linach Henry Tudor. Croeso i unrhyw ddyn gyda'r cyfenw Tudor neu unrhyw un sy'n adnabod gwrywod gyda'r cyfenw gysylltu â ni ar heno@tinopolis.com"
Bydd CymruDNAWales hefyd yn archwilio achau teuluol i geisio darganfod disgynyddion byw Owen Tudor, cenhedlydd y llinach, er mwyn gweld a oes modd gwneud cysylltiad rhyngddo a samplau Tuduraidd o'r llinach heddiw. Os bydd dau ddyn gyda'r cyfenw Tudor yn cydweddu, ac os gellir profi eu perthynas, a dilyn eu llinach nôl i deuluoedd hynafol y Tuduriaid, bydd hi'n bosib gwybod math cromosom Y y teulu hwnnw. Ac fe fyddwn wedi dod o hyd i ddisgynyddion llinach frenhinol goll Prydain.
Yn y gyfres DNA Cymru yn dechrau ar Ddydd Gŵyl Ddewi, bydd aelodau o'r cyhoedd ac wynebau cyfarwydd fel Michael Sheen, Bryn Terfel, Iwan Rheon a Sian Lloyd, yn darganfod eu gwreiddiau yn y gorffennol pell.
Bydd y gyfres, sy'n cael ei chynhyrchu ar gyfer S4C gan Green Bay Media, yn ymchwilio i rôl arbrofi hynafiadol DNA wrth ddatgelu llinellau gwaed teuluoedd amlwg eraill ymhlith y Cymry.
Meddai John Geraint, golygydd y gyfres DNA Cymru, "Mae hon yn stori epig am daith pobl drwy hanes. Byddwn yn datgelu gwybodaeth am achau genetig eiconau Cymreig go iawn, wrth ddilyn stori ryfeddol y Cymry, pwy ydym ni ac o ble y daethom."
Ewch i safle'r gyfres ar http://www.s4c.co.uk/cymrudnawales/e_index.shtml