Mae cymeriadau Cyw a'i ffrindiau bellach yn codi gwên yn Ysbyty Treforys, Abertawe wedi i S4C addurno'r wardiau plant gyda lliw a chymeriadau llachar byd Cyw.
Treforys yw'r ysbyty diweddaraf i gael ei addurno yn rhan o ymgyrch S4C i ddod â thamaid o fyd Cyw i ysbytai ar hyd a lled y wlad, ac mae rhagor i ddilyn.
Mae’r addurniadau yn cynnwys darluniau bywiog byd Cyw, gwasanaeth S4C ar gyfer plant meithrin, wedi eu gosod yn yr ardaloedd ble mae plant yn dod am driniaeth.
Yn y dderbynfa, mae'r desgiau croeso wedi eu haddurno â lluniau Cyw a'i ffrindiau; mae lluniau caffi Cyw yn bywiogi'r ystafell fwyta i'r cleifion ifanc; ac mae sticeri lliwgar o Cyw a'i ffrindiau o dan y môr ac ar daith drwy'r jwngl i'w gweld yn y coridorau, ar y wardiau ac yn yr ardaloedd chwarae.
Dywedodd Eirlys Thomas, Dirprwy Bennaeth Nyrsio;
"Rydw i wrth fy modd fod S4C wedi ein dewis ni ar gyfer hyn. Mae'r ardaloedd yn edrych yn anhygoel, a lluniau'r cymeriadau yn llachar a bywiog. Rwy'n hoff iawn fod y geiriau yn ddwyieithog ar y waliau, sydd yn wych."
Meddai Jane Felix Richards, Pennaeth Hyrwyddo a Marchnata S4C,
"Rydym yn falch iawn o gydweithio gydag ysbytai ar hyd a lled Cymru i allu dod ag ychydig o liw byd Cyw i'r ardaloedd gofal plant. Mae'r gweithwyr yn yr adrannau yma’n gwneud eu gorau i greu awyrgylch gartrefol a chysurus er lles y cleifion ifanc. Gobeithiwn yn fawr bod ein cyfraniad yn helpu i roi gwen ar wynebau'r plant a'u teuluoedd hefyd."
Yn rhan o'r cynllun cenedlaethol, mae S4C eisoes wedi addurno ardaloedd i blant yn Ysbyty Maelor Wrecsam, Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili Caerfyrddin ac Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?