Mae Cadeirydd S4C wedi talu teyrnged i'r hanesydd Dr John Davies yn dilyn ei farwolaeth yr wythnos hon yn 76 oed.
Fe wnaeth Dr John Davies gyfrannu i ystod o gyfresi a rhaglenni S4C yn ogystal ag ysgrifennu llu o gyhoeddiadau fu'n ganolog i astudiaethau hanesyddol am Gymru yn yr ugeinfed ganrif a'r unfed ganrif ar hugain.
Ymhlith ei gyfraniadau diweddar roedd y ffilm bortread afaelgar a gonest ohono yn y rhaglen Gwirionedd y Galon (cynhyrchwyr Telesgop) a gafodd gymaint o ganmoliaeth. Roedd hefyd yn gyflwynydd y rhaglen 100 Lle (Fflic, rhan o Boom Cymru) a aeth â ni ar daith gofiadwy i rai o greiriau a safleoedd pwysicaf hanes Cymru.
Meddai Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C,
"Gofynnwyd i mi unwaith enwi un llyfr Cymraeg y dylai pawb ei ddarllen. Fy ateb oedd 'Hanes Cymru' John Davies. Mae'r gyfrol yn glasur, yn ffrwyth dealltwriaeth academaidd ddofn o'r pwnc ond hefyd yn gyflwyniad hawdd-mynd-ato a llithrig ei iaith, ac yr un mor llwyddiannus yn y cyfieithiad Saesneg gwerthfawr a gafwyd maes o law. Mae'n ddarllen hanfodol i unrhyw un sydd am ddeall Cymru.
"Gwnaeth Dr John Davies gyfraniad anferth i fywyd deallusol a chenedlaethol Cymru yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, a dechrau'r ganrif hon. Roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, wrth gwrs, yn warden cynnar dylanwadol ar Neuadd Pantycelyn, yn gyfrannwr lliwgar a gogleisiol i ddegau o raglenni teledu, yn ogystal â bod yn hanesydd academaidd cynhyrchiol uchel ei barch. Fe fydd y bwlch ar ôl 'Bwlch Llan' yn un anferth."
DIWEDD
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?