S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyfeiriad newydd S4C.cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi

01 Mawrth 2015

Mae S4C yn mynd i gyfeiriad newydd ar Ddydd Gŵyl Dewi wrth i'r sianel fod ymhlith y cyntaf i ddechrau defnyddio'r enw parth newydd .cymru

O 1 Mawrth 2015 ymlaen, bydd holl gynnwys S4C ar-lein ar gael ar y cartref newydd s4c.cymru, gan ddisodli'r hen gyfeiriad s4c.co.uk

Os ydych chi am wylio cynnwys y sianel ar alw, ar-lein, ewch i s4c.cymru/clic ac i gysylltu gyda'ch cwestiynau, sylwadau a syniadau, anfonwch e-bost at Wifren Gwylwyr S4C yn defnyddio'r cyfeiriad gwifren@s4c.cymru

Fel un o sylfaenwyr y fenter i greu'r enw parth .cymru a .wales, mae S4C yn cydnabod gwerth creu cartref i Gymru ar y we fyd-eang.

Meddai Prif Weithredwr S4C Ian Jones, "Mae'r newid heddiw, ar Ddydd Gŵyl Dewi, yn ddigwyddiad cyffrous i ni ac rydym yn falch iawn o fod ymhlith y cyntaf i ddefnyddio'r enw parth newydd. Pwysigrwydd defnyddio .cymru i S4C yw ei fod yn atgyfnerthu ein balchder a'n hyder yn ein hunaniaeth yn rhyngwladol.

"Dros y blynyddoedd mae S4C wedi bod yn allforiwr rhyngwladol cynhyrchiol ac mi fydd defnyddio .cymru yn gwneud llawer i atgyfnerthu hyn a chodi proffil Cymru ymhellach ar draws y byd."

Ymhlith sylfaenwyr eraill yr enw parth .cymru a .wales mae: Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Ffederasiwn y Ffermwyr Ifanc, Chwaraeon Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Ar ddydd Sul, 1 Mawrth 2015, bydd yr enw parth ar gael i bawb - sefydliadau, cwmnïau ac unigolion - ac mae'r cwmni sy'n cofrestru .cymru a .wales Nominet, yn annog rhagor i ddefnyddio'r enw.

Cadeirydd Grŵp Cynghori .cymru a .wales yw Ieuan Evans MBE, cyn-gapten tîm rygbi Cymru.

Meddai Ieuan Evans, “Bwriad y parthau hyn yw datgan ein hangerdd, balchder a’n gwreiddiau Cymreig i’r byd ar-lein ac o ganlyniad rydym nawr gyda’r cyfle i wneud hynny, yng Nghymru ac ar draws y byd. Rwy’n hynod falch fy mod o’r diwedd yn gallu defnyddio fy nghyfeiriadau gwefan .cymru a .wales ac rwy’n gwybod y bydd unrhyw un gyda chysylltiad â Chymru eisiau gwneud yr un peth ac ymuno â fi wrth i ni Gymreigio’r we.”

Diwedd

Nodiadau:

Ewch i wefan Nominet am ragor o wybodaeth am yr enw parth .cymru a .wales: http://eincartrefarlein.cymru/

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?