Wyth enwebiad i gynnwys S4C ar gyfer gwobrau’r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd
06 Mawrth 2015
Mae wyth o raglenni a gwasanaethau S4C wedi eu cynnwys ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Torch Efydd, a fydd yn cael eu cyflwyno yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd yn Inverness yn Yr Alban ddiwedd Ebrill.
Mae saith o raglenni'r sianel wedi eu cynnwys ymhlith yr enwebiadau ac un gwasanaeth digidol sydd ar y rhestr fer am Wobr Kevin Hegarty am Arloesedd.
O ddrama i raglenni ffeithiol, o gomedi i wasanaethau plant, mae’n gydnabyddiaeth eang i gynnwys S4C.
Ar y rhestr fer mae:
Y Syrcas (ffatiffilms / AimImage) – Drama Nodwedd Hir
Pyramid (Boom Plant) – Gwobr Kieran Hegarty am Arloesedd
I Grombil Cyfandir Pell: American Interior (Ie Ie Productions) – Celf
Dim Byd (Cwmni Da) – Adloniant
Adam Price a Streic y Glowyr (Tinopolis) – Cyfres Ffeithiol
O'r Galon: Yr Hardys – Un Dydd ar y Tro (Rondo) – Ffeithiol Sengl
Mered (Cwmni Da) – Ffeithiol Sengl
Gwirionedd y Galon: Dr John Davies (Telesgop) – Ffeithiol Sengl
Mae 118 o enwebiadau o dros 78 o gwmnïau cynhyrchu a darlledwyr wedi cael lle ar y rhestr fer. Cafodd trefnwyr y gwobrau 500 o geisiadau o’r Alban, Cernyw, Llydaw, Ynys Manaw ac Iwerddon yn ogystal â Chymru. Mae’r rhestr fer wedi’i llunio gan banel rhyngwladol.
Meddai Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys:
“Hoffwn longyfarch yr holl gwmnïau cynhyrchu a phartneriaid eraill rydym wedi cydweithio’n agos gyda nhw i wneud y cynnwys amrywiol yma ar gael i bobl Cymru. Unwaith eto, mae amrywiaeth a nifer enwebiadau ein rhaglenni yn brawf o'r safon uchel mae cynhyrchwyr rhaglenni yng Nghymru yn cyrraedd yn gyson."
Diwedd
Nodiadau:
Mae’r rhestr fer lawn i’w gweld ar wefan yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd: www.celticmediafestival.co.uk
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?