07 Ebrill 2015
Mae S4C yn gosod Cymru yng nghanol ymgyrch Etholiad Cyffredinol 2015, wrth i'r sianel gyhoeddi amserlen o raglenni sy'n dilyn yr ymgyrchu, y cyfri a'r canlyniad.
Mae'r arlwy yn cynnwys rhaglen gydol y nos ar noson yr etholiad ei hun ar 7 Mai, yn dod â'r cyhoeddiadau diweddaraf wrth i'r canlyniadau gyrraedd ar ras o bob cwr o Brydain. Arhoswch ar eich traed drwy'r nos yng nghwmni'r darlledwyr profiadol Dewi Llwyd, Vaughan Roderick a Catrin Haf Jones, i glywed y canlyniad a'r holl ymateb wedyn.
Yn ystod y cyfnod ymgyrchu, cawn ein tywys gan dîm newyddion BBC Cymru Wales yn eu bwletinau cyson bob dydd ar S4C a cheir dadansoddiad cynhwysfawr yn y brif raglen Newyddion 9, bob nos Lun i nos Wener am 9.00.
Craffu ar bolisïau ac asesu ymgyrchoedd y pum brif blaid yw bwriad tîm materion cyfoes ITV Cymru Wales yn y gyfres arbennig o dair Y Ras i 10 Downing St.
Bydd sylwebyddion gwadd, yn eu tro, yn craffu ar bleidiau gwleidyddol gwahanol, gan ddechrau nos Fercher, 15 Ebrill gyda Rod Richards yn dadansoddi'r Blaid Lafur a'r gyflwynwraig Siân Lloyd yn dadansoddi'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Yn y ddwy bennod nesaf o Y Ras i 10 Downing St, nos Fawrth, 21 Ebrill, bydd Myfanwy Alexander yn bwrw golwg ar y Ceidwadwyr a John Stevenson yn asesu Plaid Cymru. UKIP sy'n cael sylw Guto Harri yn y bennod olaf, ar nos Fawrth 28 Ebrill, a bydd Dylan Iorwerth yn trafod gyda Catrin Haf Jones am obeithion yr holl bleidiau a cheisio dadansoddi'r canlyniadau posib.
Mae cyfle i'r cyhoedd holi am y pynciau sydd o bwys iddyn nhw, mewn rhifynnau arbennig o Pawb a'i Farn a Hacio.
Ar 23 Ebrill mae Dewi Llwyd yn cyflwyno Pawb o'i Farn o Gaerfyrddin, ac yn teithio i Fangor ar 30 Ebrill. Pobl ifanc fydd yn rheoli'r llawr yn Hacio ar nos Fawrth, 5 Mai, gyda Catrin Haf Jones yn llywio'r drafodaeth i'r ifanc, a bydd Lois Angharad yn edrych yn fanylach ar y pynciau sydd yn bwysig iddyn nhw yn yr etholiad hwn.
Ac mae cyfle i drafod y cyfan ymhellach yn y rhaglen wleidyddol Y Sgwrs sy'n dilyn Newyddion 9 ar nos Fercher, 22 a 29 Ebrill a 6 Mai. A bydd rhaglen estynedig awr o hyd Newyddion 9 ar nos Wener 8 Mai yn dadansoddi'r ymateb i'r canlyniad.
Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C; "Mae rhaglenni S4C ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol yn cyfuno arbenigedd ystafelloedd newyddion BBC Cymru Wales ac ITV Cymru Wales, gyda chyfraniadau sylwebwyr gwadd a chyfle i'r gwylwyr drafod y pynciau sydd o bwys iddyn nhw. Mae'r cyfan yn arwain at noson fawr yr etholiad ei hun, felly arhoswch gydag S4C drwy'r nos ar 7 Mai ar gyfer sylwebaeth lawn o'r canlyniad a'r ymateb."
Newyddion 9
Bob nos Lun i nos Wener 9.00
Rhaglen estynedig ar nos Wener 8 Mai 9.00
Isdeitlau Saesneg
@Newyddion9
Cynhyrchiad BBC Cymru Wales
Y Sgwrs
Nos Fercher 22 Ebrill 9.30
Nos Fercher 29 Ebrill 9.30
Nos Fercher 6 Mai 9.30
Isdeitlau Saesneg
#ysgwrs
Cynhyrchiad BBC Cymru Wales
Y Ras i 10 Downing St
Nos Fercher 15 Ebrill 9.30
Nos Fawrth 21 Ebrill 10.00
Nos Fawrth 28 Ebrill 10.00
Isdeitlau Saesneg
Cynhyrchiad ITV Cymru Wales
Pawb a'i Farn
Caerfyrddin: Nos Iau 23 Ebrill 9.30
Bangor: Nos Iau 30 Ebrill 9.30
Isdeitlau Saesneg
#PawbAifarn
Cynhyrchiad BBC Cymru Wales
Hacio
Nos Fawrth 5 Mai 10.00
Isdeitlau Saesneg
@Hacio
Cynhyrchiad ITV Cymru Wales
Nos Iau 7 Mai 10.00
Sylwebaeth a chanlyniadau gydol y nos yng nghwmni Dewi Llwyd, Vaughan Roderick a Catrin Haf Jones
#etholiad2015
Cynhyrchiad BBC Cymru Wales