Cadeirydd S4C yn croesawu penodiad Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon
11 Mai 2015
Mae Cadeirydd S4C Huw Jones wedi croesawu penodiad John Whittingdale i rôl Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon:
"Rwy’n croesawu’r cyfle i weithio gyda John Whittingdale yn fawr yn ei rôl newydd fel Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Yn S4C, rydym yn gyfarwydd â gwaith yr Ysgrifennydd Gwladol newydd o’i gyfnod fel Cadeirydd Pwyllgor Dethol Tŷ’r Cyffredin ar Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.
"Dangosodd adroddiad diweddar y Pwyllgor, ychydig cyn yr etholiad, ddealltwriaeth o rai i’r materion pwysicaf i ddyfodol S4C, yr angen am arian digonol, a pharhad ein hannibyniaeth fel rhan o sector cyfryngau Cymreig ffyniannus ac amlochrog. Mae ei wybodaeth am y sector cyfryngau yn golygu ei fod mewn sefyllfa gref o’r cychwyn.
"Hoffwn hefyd roi ar gof a chadw fy niolch i’r cyn Ysgrifennydd Gwladol, Sajid Javid, am y ffordd y bu’n ymdrin yn adeiladol ag S4C yn ystod ei gyfnod wrth y llyw. Dymunwn y gorau iddo yntau yn ei swydd newydd."
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?