S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Band Cymru a Band Ieuenctid Cymru 2016

11 Mehefin 2015

Yn dilyn llwyddiant cyfres Band Cymru 2014, mae S4C yn falch o gyhoeddi Band Cymru 2016 a chystadleuaeth newydd, Band Ieuenctid Cymru. Cystadleuaethau i fandiau chwyth, pres a jazz yw Band Cymru a Band Ieuenctid Cymru. Mae Band Ieuenctid Cymru yn addas i bobl 18 oed ac o dan ar 31.08.16.

Dyma gyfle unigryw i fandiau Cymru ddangos eu doniau disglair ar y teledu gyda gwobr o £10,000 i enillydd Band Cymru a £1,000 i enillydd y categori ieuenctid.

Rhaid i bob band gael isafswm o 12 offeryn chwyth neu bres ac uchafswm o 5 person yn chwarae offeryn nad sy'n offeryn chwyth neu bres. Ni chaniateir mwy na 35 aelod mewn unrhyw fand.

Meddai Elen Rhys, Comisiynydd Cynnwys Adloniant S4C, "Yn sicr fe gydiodd cystadleuaeth Band Cymru 2014 yn nychymyg y gynulleidfa sy'n profi nad gwlad y gân yn unig yw Cymru ond hefyd gwlad yr offerynwyr. Mae S4C yn hynod falch o gael ymestyn y gystadleuaeth y tro hwn i gynnwys rownd derfynol byw a chystadleuaeth newydd sbon i fandiau ieuenctid Cymru. Byddwn yn dathlu synau'r seindorf mewn cystadleuaeth sydd â’r addewid i fod yn un gyffrous tu hwnt."

Yn dilyn cyfres o glyweliadau sain ar gyfer cystadleuaeth Band Cymru 2016, gwahoddir 12 band i ymddangos yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar benwythnos 9-10 Ebrill 2016. Bydd y 12 band sydd yn mynd ymlaen i'r rowndiau terfynol yn derbyn gwobr o £500.

Bydd y 12 band yn cael eu rhannu i bedwar grŵp ar gyfer pedair rhaglen deledu, a bydd enillydd ar ddiwedd pob rhaglen. Fe fydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal yn Theatr y Parc a'r Dar, Treorci ar ddydd Sul, 22 Mai 2016 ac fe fydd y pedwar band yn derbyn £500 ychwanegol. Bydd enillydd teitl Band Cymru 2016 yn derbyn gwobr bellach o £9,000.

Yn dilyn cyfres o glyweliadau ar gyfer cystadleuaeth Band Ieuenctid Cymru 2016, gwahoddir pedwar band i ymddangos yn Theatr y Parc a'r Dar, Treorci ar ddydd Sadwrn, 21 Mai 2016. Mae pob band ieuenctid sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn derbyn £250.

Rhoddir £1,000 i’r band ieuenctid sydd yn ennill y gystadleuaeth.

Dyddiad cau'r ddwy gystadleuaeth yw 12 Hydref 2015. Gwahoddir ceisiadau oddi wrth fandiau sy'n deillio o Gymru, ond ni chaniateir i enillydd Band Cymru 2014 gystadlu yng nghystadleuaeth 2016.

Yn ystod rowndiau cynderfynol Band Cymru 2016, fe fydd gwobr o £500 i'r unawdydd gorau fydd wedi'i ddewis gan y beirniaid.

Er mwyn cystadlu, cysylltwch â Rondo ar 02920 223456 neu bandcymru@rondomedia.co.uk

DIWEDD

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?