15 Mehefin 2015
Fe aeth awdur y ddrama newydd Parch, Fflur Dafydd, i ymweld ag Ysgol y Strade heddiw, er mwyn cynnal gweithdy sgriptio gyda disgyblion yr ysgol.
Mae Fflur wedi hen ennill ei phlwyf fel awdur, ac wedi cipio'r Fedal Ryddiaith a Gwobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn ogystal ag ennill gwobr yng Ngŵyl y Gelli, 2013 am nofel Saesneg orau'r ŵyl, "Twenty Thousand Saints." Mae hi hefyd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn gyfansoddwraig a chantores.
Caiff Parch ei darlledu bob nos Sul am 9.00pm (gydag isdeitlau Saesneg ar gael) a gallwch wylio'r rhaglen eto bob nos Fawrth gydag isdeitlau Saesneg ar y sgrin. Mae'r gyfres ar gael i'w gwylio ar alw ar wefan S4C.
Roedd pymtheg o ddisgyblion sy'n astudio Cymraeg ym mlynyddoedd 11 a 12 yn bresennol yn y gweithdy. Fe gawson nhw gyfle i ysgrifennu sgript fer, yn ogystal â holi Fflur am amryw bynciau; o sut i greu cymeriadau, i ddulliau gwahanol o ysgrifennu. Bydd sgwrs y disgyblion gyda Fflur yn cael ei ddarlledu ar wefannau cymdeithasol Facebook a Twitter yr wythnos hon.
Dywedodd Gwenno Evans sy'n fyfyriwr chweched dosbarth, "Dyma gyfle gwych i weld y broses o sgriptio yn cael ei drosglwyddo i'r sgrin. Diolch yn fawr i Fflur Dafydd ac i S4C am brofiad anhygoel. Hoffwn hefyd ddiolch i S4C am y cyfleoedd arbennig a gawsom dros gyfnod y prosiect."
Mae Ysgol y Strade yn rhan o brosiect llysgenhadon S4C. Mae tri disgybl o flwyddyn 12 yn rhan o'r cynllun, Gwenllian Jones, Gwenno Evans ac Ela Davies.
Mae wyth yn ysgol yn rhan o'r prosiect, sy'n golygu bod ieuenctid ifanc rhwng 16 a 17 yn gymorth i S4C hyrwyddo'r Sianel yn eu hysgolion. Bydd y llysgenhadon yn ysgrifennu adolygiadau, dosbarthu deunyddiau marchnata, ac yn darparu adborth ynghylch amryw raglenni, yn ogystal â mynd y tu ôl i len ambell gynhyrchiad.
Dywed Fflur Dafydd, "Roedd e'n hyfryd i gael ymateb y plant i'r gyfres, a gweld eu cyffro am ambell stori sydd wedi taro tant gyda nhw. Roedd hi hefyd yn wych i weld brwdfrydedd ymhlith pobl ifanc i greadigrwydd yn gyffredinol, a gweld bod ganddynt ysfa i sgwennu a rhannu eu dychymyg gyda'r byd - dyma'r genhedlaeth nesaf o sgwenwyr Cymraeg, wedi'r cyfan, ac mae'n bwysig iawn meithrin eu doniau a gwneud iddyn nhw deimlo fod unrhyw beth yn bosib."
Dywed Pennaeth Adran Y Gymraeg yn Ysgol y Strade, Lowri Davies; "Cafodd y disgyblion brofiad gwerthfawr tu hwnt wrth gwrdd ag awdures lwyddiannus, a gwrando arni'n cynnig syniadau am sut i lunio sgript ar gyfer y sgrin. Diolch i Fflur ac i S4C am y cyfle."
Dywed Pennaeth Hyrwyddo a Marchnata S4C, Jane Felix Richards; "Rydym yn hynod werthfawrogol o'r cyfle i weithio gyda'r disgyblion. Rydym yn ddiolchgar i gael eu hadborth ar ein rhaglenni."