16 Mehefin 2015
Wrth baratoi i lansio gwasanaeth i ddarparu rhagor o raglenni S4C ar gael yn rhyngwladol, mae'r sianel yn falch o gyhoeddi bod cyfres cariad@iaith 2015 ar gael ar alw, ar-lein i wylwyr ar draws y byd.
Mae'r cyhoeddiad yn rhan o gynllun S4C i gynyddu'n sylweddol y nifer o raglenni sydd ar gael y tu hwnt i'r DU, ynghyd â datblygu ap yn arbennig ar gyfer gwylwyr rhyngwladol. Fe fydd hyn yn digwydd ochr yn ochr â datblygiadau cyffrous eraill i wasanaethau gwylio ar-lein S4C; drwy’r wefan a thrwy brif ap y sianel.
Bydd y manylion llawn yn cael eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf, i gyd-fynd â dau ddigwyddiad fydd ar gael i gynulleidfa ryngwladol; sef darllediadau o Sioe Frenhinol Cymru 2015 a chyfres o raglenni arbennig S4C sy'n nodi dathliadau blwyddyn Patagonia 150, yn eu plith ffilm Galesa a ffilm ddogfen sy'n dilyn taith y dringwyr Eric Jones ac Ioan Doyle i'r Wladfa.
Meddai Elin Morris, Cyfarwyddwr Corfforaethol a Masnachol S4C, "Rydym yn falch iawn o gynnig cyfres newydd cariad@iaith i wylwyr ar draws y byd ar alw ar wefan S4C, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gyhoeddi manylion rhagor o raglenni fydd ar gael y tu allan i'r DU cyn hir.
"Rydym yn ymwybodol o'r galw gan gymunedau Cymraeg a Chymreig ar draws y byd i weld cynnwys y sianel. Bu cynyddu'r arlwy sydd ar gael i wylwyr tramor yn un o'n hamcanion ers tro, ac rydym wedi bod mewn trafodaethau ers cryn amser i geisio sicrhau'r hawliau sydd eu hangen. Erbyn hyn, gallwn edrych ymlaen at wireddu'r cynllun, gyda chyhoeddiad llawn i ddilyn yn fuan.
"Er bod cyfyngiadau hawliau yn golygu na fydd ein holl raglenni ar gael, rydym yn gobeithio y bydd cynnydd sylweddol yn y ddarpariaeth ryngwladol dros gyfnod. Byddwn yn falch o glywed pa fath o raglenni byddai'n apelio fwyaf at gynulleidfaoedd dramor a gobeithiwn fedru ymateb i hyn i'r graddau sy'n bosib."
Am y tro, bydd cyfres cariad@iaith ar gael i'w gwylio yn llawn yn y DU ac yn rhyngwladol ar wefan s4c.cymru – gyda'r bennod gyntaf ar gael ar-lein tan 17 Gorffennaf 2015. Mae isdeitlau Saesneg ar gael ar y gyfres.
Yn cymryd rhan yn y gyfres cariad@iaith eleni mae wyth o enwogion Cymreig sydd wedi cytuno i dreulio wythnos gyfan yng nghwmni ei gilydd, yn bwyta, cysgu ac yn dysgu Cymraeg.
Yr enwogion yw'r cyflwynydd tywydd Derek Brockway, y cyflwynydd radio Chris Corcoran, yr actor a'r awdur Steve Speirs, y cyflwynydd CBeebies Rebecca Keatley, yr actores Nicola Reynolds, seren y West End, Caroline Sheen, yr athletwr Jamie Baulch a'r cyn-chwaraewr rygbi, Tom Shanklin. Mae mwy o wybodaeth amdanyn nhw a'u her ar wefan y gyfres s4c.cymru/cariadatiaith
Diwedd