Mae prosiectau aml-blatfform S4C ar gyfer pobl ifanc wedi ennill Cymeradwyaeth yng Ngwobrau BAFTA Cymru ar gyfer Gemau a Phrofiad Rhyngweithiol 2015.
Mae Madron yn brosiect gwreiddiol sydd wedi ei gynhyrchu mewn partneriaeth rhwng Cronfa Ddigidol S4C, Cube a Glasshead. Fe enillodd Madron wobr Cymeradwyaeth BAFTA Cymru ar gyfer Cyflawniad Artistig yn y gwobrau a gynhaliwyd ddydd Gwener 19 Mehefin.
Cylchgrawn comig rhyngweithiol yw Madron sy'n cynnwys stori stribed comig a gêm ryngweithiol ar ffurf ap. Roedd y stori yn dechrau yn rhan o gyfres animeiddio ar wasanaeth Stwnsh S4C ym mis Mai 2014, ac yna'n parhau mewn pedwar ap rhyngweithiol oedd ar gael i'w lawr lwytho i dabled neu ffôn clyfar.
Mae Madron yn dilyn anturiaethau Seren ac Ishmael mewn byd ble mae firws ffyrnig yn troi pobl yn sombis dychrynllyd. Yn ogystal â'r stori, mae nifer o gemau digidol o fewn yr apiau ac mae'n rhaid i'r chwaraewr gwblhau'r gemau er mwyn darganfod be' sy'n digwydd nesaf.
Meddai Huw Marshall, Rheolwr Digidol S4C, "Mae Madron yn brosiect cynhenid Gymreig sydd wedi arloesi wrth apelio at gynulleidfa iau ar draws nifer o blatfformau gwahanol.
"Mae derbyn clod am waith sy'n wreiddiol Gymreig yn dangos sut mae modd creu cynnwys newydd yn benodol ar gyfer y gynulleidfa yma yng Nghymru; sef un o amcanion Cronfa Ddigidol S4C. Mae'r wobr heddiw hefyd yn hwb wrth apelio at y farchnad ryngwladol, er mwyn mynd â chynnwys sy'n dechrau yma yng Nghymru allan i weddill y byd."
Roedd dau brosiect arall, sydd wedi derbyn cefnogaeth Cronfa Ddigidol S4C, hefyd wedi dod i'r brig yn y gwobrau. Fe enillodd Tŵts gymeradwyaeth yn y categori Sain a Cherddoriaeth. Mae Tŵts yn animeiddiad gan Thud Media sy'n gyfres ac yn gêm ar-lein fel rhan o wasanaeth Cyw.
Mae Boj hefyd yn gyfres animeiddio ar Cyw, ac fe gafodd y gêm 'Boj Digs' (Thud Media) Gymeradwyaeth am Ddyluniad Chwarae.
Cafodd seremoni BAFTA Cymru ar gyfer Gemau a Phrofiadau Rhyngweithiol ei chynnal yn Neuadd y Ddinas Caerdydd ddydd Gwener, 19 Mehefin. Mae'r seremoni yn rhan o Sioe Datblygu Gemau Cymru, ac mae'r gwobrau yn cydnabod, anrhydeddu a gwobrwyo unigolion am gyflawniad creadigol eithriadol yn eu maes.
Mae mwy o wybodaeth am y gwobrau a'r enillwyr ar gael ar wefan BAFTA Cymru: www.bafta.org
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?