S4C i barhau i ddarlledu Pencampwriaeth y Chwe Gwlad
09 Gorffennaf 2015
Mae S4C wedi cadarnhau y bydd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn parhau i gael ei darlledu ar y sianel yn y Gymraeg o'r flwyddyn nesaf ymlaen.
Mae'r newyddion yn dod ar ôl i'r BBC ac ITV sicrhau'r hawliau ar y cyd i gadw'r gemau ar deledu daearol, sydd ar gael i'w wylio am ddim, mewn cytundeb chwe blynedd.
Cadarnhawyd y bydd gemau yn y bencampwriaeth sy'n cael eu darlledu gan y BBC yn cael eu darlledu yn y Gymraeg ar S4C hefyd. Bydd trafodaethau'n cael eu cynnal am unrhyw hawliau pellach.
Meddai Prif Weithredwr S4C, Ian Jones:
"Mae'n newyddion da i'r gynulleidfa yng Nghymru y bydd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn parhau i gael ei darlledu ar deledu sydd ar gael i'w wylio am ddim, ac yn y Gymraeg ar S4C.
"Ry'n ni'n falch iawn o fedru parhau i gydweithio gyda BBC Cymru a'u tîm gwych sy'n cynhyrchu rhaglenni rygbi i S4C.
"Yn S4C, mae bob amser diddordeb gennym i chwilio am ffyrdd newydd a gwahanol i ddod a chwaraeon o'r safon uchaf i'n cynulleidfa, a dwi wrth fy modd ein bod yn rhan o'r cynllun yma sy'n sicrhau y bydd rygbi Chwe Gwlad ar gael i bawb dros y blynyddoedd sydd i ddod."
Mae eleni’n flwyddyn fawr i rygbi ar S4C gyda'r sianel yn edrych ymlaen at gyflwyno darllediadau byw o Cwpan Rygbi'r Byd 2015 yn yr hydref.
Yn dechrau gyda'r gêm agoriadol rhwng Lloegr a Ffiji ar 18 Medi, bydd S4C yn darlledu cyfanswm o naw gêm fyw yn ystod y gystadleuaeth yn cynnwys pob gêm Cymru. A beth bynnag fydd tynged Cymru yn ystod y gystadleuaeth, bydd S4C yn darlledu'n fyw un gêm o rownd yr wyth olaf, un gêm o'r rownd gynderfynol, y gêm efydd a'r ffeinal.
Mae rygbi wrth galon gwasanaeth teledu S4C. Ymysg y rhaglenni amlycaf mae Clwb Rygbi a’r Clwb Rygbi Rhyngwladol. Mae’r sianel yn dangos amrywiaeth o gemau byw ac uchafbwyntiau. Mae’r darlledu’n cynnwys rygbi colegau, rygbi merched, Uwch Gynghrair Cymru a’r Guinness Pro 12. Mae gan y sianel hefyd uchafbwyntiau cynghrair Top 14 Ffrainc, rygbi a hefyd wedi dangos gemau prawf Llewod Prydain ac Iwerddon.
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?