20 Gorffennaf 2015
Mae S4C wedi datgelu newidiadau mawr i'w gwasanaeth gwylio ar alw, gan gyhoeddi apiau a gwefan newydd ar gyfer gwylio ar-lein.
Heddiw (dydd Llun 20 Gorffennaf) mae S4C wedi cyhoeddi ei ap ar alw cyntaf ar gyfer dyfeisiadau Android, ynghyd â datblygiadau i'r ap iPhone, a gwefan ar alw ar ei newydd wedd:
• Ap gwylio ar alw cyntaf ar gyfer Android
• Ap newydd ar gyfer iPhone
• Gwefan ar alw ar newydd wedd
Dyma yw ap Android cyntaf S4C ar gyfer gwylio cynnwys y sianel yn fyw ac ar alw ac mae'n cynnig ffordd o wylio ar filoedd o ffonau symudol a thabledi gwahanol. Yn ogystal â'r ap Android, mae ap newydd ar gyfer iPhone, sy'n cael ei ryddhau heddiw hefyd.
Ar yr ap newydd gallwch wylio cynnwys S4C yn fyw neu ar alw, derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am raglenni a gweithgareddau'r sianel, a defnyddio'r botwm Cyw Tiwb er mwyn gwylio eich hoff raglenni Cyw ar alw yn unrhyw le.
Ar wefan s4c.cymru, mae'r safle gwylio ar-lein yn edrych yn dra gwahanol, gan roi pwyslais ar ddelweddau a'r rhaglenni ar gael yn hawdd i'w darganfod. Mae'r safle hefyd yn addasu yn berffaith ar gyfer sgriniau o bob maint.
Mae'r wefan wedi ei chreu gan dîm datblygu S4C, a fu'n cyd-weithio â chwmni Moilin i gynhyrchu'r apiau. Mae'r datblygiadau newydd yn bwysig ar gyfer gwasanaeth ar alw S4C sydd wedi gweld cynnydd sylweddol yn y nifer sy'n gwylio cynnwys y sianel ar ddyfeisiadau symudol drwy'r ap.
Meddai Ian Jones, Prif Weithredwr S4C; "Rydym yn cyhoeddi'r datblygiadau yma i wasanaethau ar-lein ar alw S4C mewn cyfnod ble mae llawer o sylw i’r trafod am ddyfodol ei threfn ariannu. Er bod hynny wrth gwrs yn hollbwysig i ddyfodol y sianel, y Gymraeg a rhan bwysig o economi Cymru, mae’n rhaid parhau i sicrhau bod cynnwys y sianel ar gael yn y ffyrdd y mae’r bobl yn dymuno ei wylio.
"Mae'r niferoedd sy'n dewis gwylio cynnwys S4C ar-lein ac ar ddyfeisiadau symudol wedi cynyddu'n aruthrol yn y blynyddoedd diwethaf. Gyda hyn mewn golwg rwy’n falch iawn o weld bod y datblygiadau hyn yn gwella’r profiad i’r rheini sy’n gwylio’n cynnwys. Gydag ap newydd i ddefnyddwyr Android, ac ap ar ei newydd wedd i ddefnyddwyr iOS, bydd mwy o gyfleoedd nag erioed i wylio’ch hoff raglenni S4C dros y misoedd nesaf – boed hynny’n Sioe Frenhinol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol, Cwpan Rygbi’r Byd, neu gyfres nesaf Y Gwyll/Hinterland.
"Mae arferion gwylio yn newid, ac mae’n bwysicach nag erioed bod S4C yn cynnig cyfleoedd i’r gynulleidfa ddod o hyd i gynnwys y sianel mewn ffyrdd gwahanol ar-lein sy’n cwrdd â’u gofynion nhw."
Mae modd gwylio S4C yn fyw neu ar alw ar-lein nawr ar s4c.cymru neu ewch i lawr lwytho'r ap am ddim nawr o Google Play a'r App Store. Mae S4C hefyd ar gael ar-lein ar BBC iPlayer, TVCatchup.com a TV Player.com
Diwedd