24 Gorffennaf 2015
Mae S4C wedi datgelu ei phecyn cynhwysfawr o raglenni i nodi glaniad y Cymry ym Mhatagonia 150 mlynedd yn ôl – a bydd saith o'r rhaglenni ar gael yn rhyngwladol ar-lein.
Bydd Wythnos Patagonia S4C yn cael ei chynnal rhwng Sul 26 Gorffennaf a Sadwrn 1 Awst ac yn cynnwys premiere teledu'r ffilm Galesa: Patagonia 150, sy'n rhan o ffrwyth partneriaeth greadigol rhwng y sianel, Theatr Genedlaethol Cymru a National Theatre Wales.
Fe fydd modd i bobl yn Y Wladfa yn yr Ariannin fwynhau'r ffilm ar-lein fel un o ddarllediadau rhyngwladol S4C. Bydd y ffilm ar gael hefyd gydag isdeitlau mewn Sbaeneg De America.
Fe fydd saith o raglenni yn Wythnos Patagonia ar gael i'w gwylio'n rhyngwladol, ac ar gael am 35 diwrnod yn dilyn y darllediad cyntaf, gan gynnwys y ffilm ddogfen newydd, Patagonia Eric Jones ac Ioan Doyle, sy'n dilyn dau ddringwr Cymreig o ddwy genhedlaeth ym mynyddoedd yr Andes ym Mhatagonia.
Y rhaglenni eraill ar gael yn rhyngwladol yw ffilm Patagonia y cyfarwyddwr Marc Evans a'r dogfennau Cof Patagonia, Patagonia Huw Edwards, Patagonia '68 a Patagonia: Yno o Hyd.
Fe fydd S4C maes o law yn cyhoeddi rhagor o fanylion am eu cynlluniau i ddarparu mwy o raglenni'n rhyngwladol ar-lein.
Meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys a Darlledu S4C, "Mae S4C wedi bod wrth galon y digwyddiadau i nodi pen-blwydd 150 oed glaniad y Cymry Cymraeg ym Mhatagonia. Rydym yn hyderus y bydd Wythnos Patagonia S4C yn gyfraniad sylweddol i'r dathlu a'r cofio ac yn cael eu gwerthfawrogi gan gynulleidfaoedd yma yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae hanes y gwladychwyr a'u disgynyddion wedi dal dychymyg pobl yng Nghymru a thu hwnt ers degawdau ac yn fwy allweddol na dim, wedi cynhyrchu teledu gafaelgar, difyr. Fe fydd ein pecyn eang o raglenni newydd ac archif yn adlewyrchu'r cyfoeth hynny o raglenni."
Fe fydd rhaglenni Newyddion S4C yn nodi glaniad tua 160 o Gymry yn llong y Mimosa ym Mhuerto de Madryn ddiwedd Gorffennaf 1865 gydag adroddiadau gan dîm newyddion BBC Cymru.
Mi fydd y gohebwyr Craig Duggan, Rhodri Llywelyn a Steffan Messenger yn edrych ar wleidyddiaeth y wlad, yr iaith, y cynlluniau diwylliannol yn yr ardal, ac ymweliad Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru.
Mae'r gyfres gylchgrawn Heno eisoes wedi dechrau nodi'r glaniad gyda chyfres o eitemau. Bu'r cyflwynydd a'r gantores Elin Fflur yno'n darganfod mwy am bobl ardal Dyffryn Camwy a Chwm Hyfryd ac yn cwrdd â disgynyddion y Cymry gwreiddiol a phobl leol yr ardal.
Meddai Elin Fflur, "Treuliais bythefnos fythgofiadwy draw yn y Wladfa fis Mai. Un o'r pethau wnaeth aros efo fi am byth ydi croesi'r paith, wyth awr o daith yn y car ardraws yr anialwch gan weld ambell Gaucho ar hyd y ffordd. Braint oedd cael amser efo'r bobl, cael eu hanes a dod i wybod mwy am fywyd yr Archentwyr Cymreig. Cefais gyfle i ganu mewn gwahanol gyngherddau yn y Gaiman, yn Nhrelew ac yn Esquel a chael llond neuadd o gynulleidfa wresog a chartrefol. Roedd pob diwrnod yn antur ac edrychaf ymlaen at rannu fy mhrofiadau efo'r gwylwyr."
Ymysg yr atyniadau eraill fydd cyfle arall i weld y rhaglen ddogfen Patagonia Huw Edwards, sef golwg treiddgar newyddiadurwr y BBC o hanes y Cymry yn y Wladfa.
Mae'r ffilm Galesa: Patagonia 150 eisoes wedi denu sylw eang fel rhan o'r perfformiad llwyfan {150}, a grëwyd gan y cyfarwyddwr Marc Rees. Fe gafodd y cynhyrchiad ei gyflwyno yn ddiweddar yn Storfa'r Tŷ Opera Cenedlaethol yn Abercwmboi, ar stad ddiwydiannol rhwng Aberpennar ac Aberdâr - ardal lle'r oedd 66 o'r gwladychwyr gwreiddiol yn tarddu ohoni.
Roedd y ffilm hon yn rhan o'r cyflwyniad aml-lwyfan, ffilm a wnaed ar leoliad dros gyfnod o 18 diwrnod ym mis Ebrill 2015 pan aeth cwmni Joio yno â thîm camera dan arweiniad yr awdur Roger Williams a'r cyfarwyddwr Lee Haven Jones.
Mae'r wythnos hefyd yn cynnwys stôr gyfoethog o raglenni archif yn ymestyn dros chwe degawd. Yn eu plith mae ffilm Marc Evans, Patagonia, ffilm Gruff Rhys, Separado!, rhaglenni archif BBC, gan gynnwys Patagonia '68 gyda'r diweddar Alun Williams, rhifynnau arbennig o Cefn Gwlad a Chyngerdd Sain De America o Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen 2015.
Dywedodd yr actor byd-enwog, Matthew Rhys sy'n serennu yn y ffilm Patagonia, "Mae gen i ddiddordeb mawr ym Mhatagonia a dwi wedi gweithio ac ymweld â'r wladfa nifer o weithiau. Dwi'n hynod falch bod gan Archentwyr o dras Cymreig a phobl eraill yn y wlad y cyfle i fwynhau'r pecyn hwn o raglenni ar-lein. Bydd yna groeso cynnes iddo yn yr Ariannin er mwyn nodi cyfnod pwysig iawn yn hanes Patagonia."
Dyma'r rhaglenni fydd ar gael yn rhyngwladol ar-lein:
Sul 26 Gorffennaf
20:30 Patagonia Eric Jones ac Ioan Doyle
Taith dau ddringwr o Gymru i Batagonia i gyrraedd copa Piedra Parada. Isdeitlau Saesneg.
22:30 Patagonia Huw Edwards
Ym 1865, hwyliodd criw o Gymry ar draws Fôr yr Iwerydd i ddechrau bywyd newydd ym Mhatagonia. Eu bwriad oedd creu Gwladfa Gymreig fyddai'n gartref diogel i'w hiaith a'u diwylliant. Gan mlynedd a hanner yn ddiweddarach, mae Huw Edwards yn dilyn ôl troed yr arloeswyr Cymreig i Dde America gan wireddu breuddwyd fu ganddo ers yn blentyn ysgol yn Llangennech. Isdeitlau Saesneg.
Llun 27 Gorffennaf
22:30 Patagonia '68
Rhaglen o archif y BBC gydag Alun Williams yn cyflwyno ei argraffiadau o'i daith i'r Wladfa. Isdeitlau Saesneg.
Mercher 29 Gorffennaf
20:30 Cof Patagonia
Hanes llafar yr ugeinfed ganrif yn Nhalaith y Chubut Archentina wedi'i fynegi trwy luniau ac atgofion personol disgynyddion y gwladfawyr cyntaf. Roedd hi'n ganrif a welodd cyffro anhygoel a pheryglon diri, yn enwedig gan y mewnfudwyr rheiny a oedd bellach yn Archentwyr. Gosodir hanes y Cymry ar gynfas ehangach hanes yr Ariannin a thrwy hynny fe deflir goleuni newydd ar eu cyfraniad fel dinasyddion yr Ariannin a'i hymdrechion i warchod eu hiaith a'u diwylliant eu hunain. Isdeitlau Cymraeg a Saesneg.
21:30 Galesa: Patagonia 150
Stori am y gymuned Gymraeg gyfoes ym Mhatagonia yw hon. Bydd y prosiect yn coffau'r 150 o flynyddoedd ers i'r Wladfa gael ei sefydlu. Bydd y ffilm yn rhan o'r prosiect celfyddydol cenedlaethol (150) sydd wedi cael ei gomisiynu gan National Theatre Wales, Theatr Genedlaethol Cymru ac S4C a bydd yn cael ei berfformio yn storfa'r Tŷ Opera Frenhinol yn Abercwmboi ym mis Mehefin 2015. Isdeitlau Sbaeneg De America, Cymraeg a Saesneg.
22:30 Patagonia: Yno o Hyd
Roedd y diweddar Selwyn Roderick yn un o'r cynhyrchwyr teledu cyntaf yng Nghymru a bu'n ymweld â'r Wladfa ar ddechrau'r Wythdegau fel cyfarwyddwr y rhaglen ddogfen Plant y Paith. Yr adeg honno, darlun digon digalon a gafwyd am gyflwr yr iaith Gymraeg yno. Ond ar ddiwedd y nawdegau, aeth yn ôl i'r Wladfa a darganfod bod pethau wedi newid yn sylweddol fel y gwelwn yn y rhaglen hon. Isdeitlau Saesneg.
Sadwrn 1 Awst
21:00 Ffilm: Patagonia
Mae Patagonia yn adrodd stori dwy fenyw ar daith; un yn chwilio am ei gorffennol, a'r llall yn chwilio am ei dyfodol. Mae'r ffilm yn cael ei thorri rhwng y ddwy stori lle mae un yn teithio o'r De i'r Gogledd yn ystod y gwanwyn yng Nghymru a'r llall trwy'r Dwyrain i'r Gorllewin yn ystod tymor yr hydref yn Yr Ariannin. Mae'r actorion yn cynnwys Nia Roberts, Duffy, Matthew Rhys a Matthew Gravelle. Isdeitlau Cymraeg a Saesneg.
Am fanylion llawn am y rhaglenni, ewch i s4c.cymru/150
Diwedd