Fe fydd S4C yn darlledu’r gêm Cwpan FA rhwng Casnewydd a Blackburn Rovers yn nhrydedd rownd y gystadleuaeth yn fyw nos Lun 18 Ionawr, y rhaglen yn dechrau am 7.00, gyda’r gic gyntaf am 7.15.
Bydd y sianel yn darlledu’r gêm rhwng y tîm Cymreig o Adran Dau ac un o gewri’r Bencampwriaeth yn fyw o Rodney Parade, gyda BBC Cymru yn cynhyrchu.
Y bwriad gwreiddiol oedd cynnal y gêm y dydd Sadwrn diwethaf ond cafodd y gêm ei gohirio o achos cyflwr y cae yn sgil y tywydd gwlyb.
Fe fydd pwy bynnag sy’n ennill y gêm hon yn wynebu Rhydychen yn Rownd 4.
Bydd y gêm ar gael i’w gwylio ledled y Deyrnas Unedig ar holl blatfformau’r sianel ac ar-lein ar s4c.cymru
Meddai Golygydd Chwaraeon S4C Sue Butler, “Rydym yn falch iawn ein bod yn darlledu gêm Casnewydd v Blackburn Rovers yn fyw. Y nhw yw’r unig dîm o Gymru ar ôl yn y gystadleuaeth bellach. Mae Blackburn Rovers yn glwb mawr â hanes balch a bydd diddordeb mawr yn y gêm ymhlith gwylwyr yn Lloegr hefyd, yn enwedig yn y gogledd orllewin.”
Meddai Lewis Richards, Ysgrifennydd Clwb Pêl-droed Casnewydd, “Mae Clwb Pêl-droed Casnewydd yn falch iawn bod S4C wedi dewis darlledu ein gêm yn erbyn Blackburn Rovers yn fyw. Fe fydd y gêm yn ddigwyddiad mawr yn Rodney Parade, gyda thorf fawr yno’n gwylio yn y stadiwm.”
Mae S4C ar gael ar Sky 104, Freeview 4, Virgin TV 166 a Freesat 104 yng Nghymru.
Yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae S4C ar gael ar Sky 134, Freesat 120 a Virgin TV 166.
Mae modd gwylio S4C ledled y DU ar wefan tvcatchup.com, TVPlayer.com, YouView a BBC iPlayer.
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?