12 Ionawr 2016
O Borthaethwy i'r byd! Mae cyfres sebon S4C Rownd a Rownd bellach ar gael ar draws y byd.
Rownd a Rownd yw'r gyfres ddiweddaraf i ymuno â'r dewis amrywiol o raglenni sydd ar gael i'w gwylio ar alw ar s4c.cymru y tu allan i'r DU.
Mae S4C yn gweithio i gynyddu nifer y rhaglenni sydd ar gael i wylwyr tramor ar-lein, gan ateb galw gan Gymry sy'n dymuno cynnal cysylltiad â'r sianel a'r iaith wrth deithio neu'n byw dramor.
Er mwyn cysylltu gyda gwylwyr ar draws y byd, mae S4C yn anfon e-bost rheolaidd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglenni sydd ar gael i'w gwylio yn rhyngwladol. Gallwch dderbyn yr e-bost yma drwy lenwi'r ffurflen danysgrifio ar wefan s4c.cymru/rhyngwladol
Mae'r gyfres, sy'n gynhyrchiad gan Rondo Media gyda'i swyddfeydd yng Nghaernarfon a Phorthaethwy, yn dathlu ei phen-blwydd yn 21 oed yn 2016; rheswm arall i ddathlu rŵan bod y gyfres ar gael yn rhyngwladol. O'r dechrau fel cyfres sebon i bobl ifanc, gyda phenodau pum munud o hyd, roedd y gyfres wreiddiol yn canolbwyntio ar helyntion pobl ifanc ar rownd bapur.
Bellach, mae Rownd a Rownd yn un o gonglfeini amserlen oriau brig S4C, gyda dwy bennod hanner awr o hyd bob nos Fawrth a nos Iau. Er bod y rownd bapur yn parhau fel rhan o'r gyfres, mae'r straeon erbyn hyn yn mynd â ni ymhell y tu hwnt i hynny, gyda chast eang o gymeriadau a drama ddifrifol a digrif fel unrhyw gyfres sebon oriau brig.
Mae modd gwylio Rownd a Rownd gyda dewis isdeitlau Cymraeg neu Saesneg, ac mae'r penodau ar gael ar alw ar-lein am 35 diwrnod.
Dywedodd Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Cynnwys Drama S4C, "Mae Rownd a Rownd yn un o gyfresi mwyaf adnabyddus S4C ac rwy'n siŵr y bydd ei straeon a'i chymeriadau yn gafael yn y gwylwyr ar draws y byd. A ninnau wedi arfer ag operâu sebon Awstralia ar ein sgriniau yng Nghymru, nawr mae cyfle i wylwyr 'Down Under' a degau o wledydd eraill i ddilyn helyntion cymdogion Rownd a Rownd."
Mae S4C yn cynyddu nifer y rhaglenni sydd ar gael yn rhyngwladol fel cynllun peilot dros gyfnod penodol, ond mae'n rhan o ddymuniadau'r sianel i ehangu'r ddarpariaeth ymhellach yn y dyfodol.
Ymhlith y rhaglenni eraill sydd ar gael i'w gwylio yn rhyngwladol mae'r rhaglenni cylchgrawn Heno a Prynhawn Da, a'r cyfresi rheolaidd Dechrau Canu Dechrau Canmol, Sgorio, Ffermio a Dal Ati: Bore Da. I blant a phobl ifanc mae Pyramid, Jen a Jim Pob Dim, Cog1nio Dolig a hefyd rhaglenni dogfen ac adloniant Y Dyn Gwyllt, Pethau Bychain 'Dolig, DNA Cymru ac Only Boys Aloud. Am restr lawn, ewch i s4c.cymru/rhyngwladol
Diwedd