Llwyfan newydd i raglenni S4C ar deledu clyfar Samsung
26 Chwefror 2018
Mae gwylwyr setiau teledu Samsung TV bellach yn gallu dewis gwylio rhaglenni S4C, yn fyw ac ar alw, drwy ap newydd.
Mae'r ap ar gyfer setiau diweddaraf Samsung TV yn cael ei lansio heddiw (26 Chwefror). Dyma'r ail ap teledu clyfar y mae S4C wedi ei ryddhau ers dechrau 2018, ar ôl i'r gwasanaeth Amazon Fire ddechrau cynnig ap S4C ar ei llwyfan ym mis Ionawr.
Mae'n ychwanegu at y nifer eang o ffyrdd sydd ar gael bellach i wylio rhaglenni S4C, ac ymhlith yr uchafbwyntiau sydd ar gael i wylwyr teledu Samsung TV o heddiw ymlaen mae'r gyfres ddrama Craith ar gael i'w gwylio yn gyfan mewn bocs set ar-lein. Hefyd y ddrama ganol wythnos Gwaith Cartref a dysgu am gymunedau ac ardaloedd ar draws Cymru, o Ferthyr i Ynys Cybi, yn y gyfres Cynefin.
Meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C; "Dyma'r ail ap ar gyfer teledu clyfar i ni ei gyhoeddi ers dechrau'r flwyddyn, ac mae'n gam mawr arall ymlaen yn ein strategaeth ddigidol hirdymor o sicrhau fod S4C yn cael ei gynnwys ar bob llwyfan. Yn dilyn lansio ap Amazon Fire ar ddechrau Ionawr, rydym nawr yn ymestyn at garfan ehangach eto o wylwyr ar y setiau clyfar Samsung TV, sydd ymhlith y mwyaf poblogaidd ar y farchnad. Ein dymuniad yw gallu cynnwys S4C ar bob llwyfan newydd sy'n dod i'r farchnad, er mwyn cynnal argaeledd at gynnwys yn yr iaith Gymraeg."
Mae S4C eisoes ar gael ar bob llwyfan gwylio ar deledu yng Nghymru, ac ar draws y DU ar Sky, Freesat a Virgin TV. Mae pob rhaglen ar gael yn fyw neu ar alw ar s4c.cymru, BBC iPlayer, YouView, Amazon Fire TV, tvplayer.com ac Ap S4C ar gyfer dyfeisiadau Android ac iOS.
Diwedd
Nodiadau i olygyddion:
Mae'r ap ar gael ar gyfer y setiau teledu Samsung Tizen diweddaraf.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?