15 Chwefror 2016
Bydd ffilm ddogfen nodedig sydd wedi ei henwebu am wobr Oscar 2016, ac yn gynhyrchiad gan Gymraes o Gonwy, yn cael ei dangos ar S4C yn hwyrach ym mis Chwefror, 2016.
Kimberley Warner o Gonwy yw cyd-gynhyrchydd y ffilm Claude Lanzmann: Spectres of the Shoah sydd wedi ei henwebu am wobr Ffilm Ddogfen Fer gwobrau Academi America 2016, ac mi fydd yn cael ei dangos ar S4C ar nos Fercher, 24 Chwefror am 10.00, bedwar diwrnod cyn noson wobrwyo'r Oscars yn Los Angeles ar 28 Chwefror.
Mae'r ffilm eisoes wedi cael ei brynu gan ZDF/ARTE yn Yr Almaen a Ffrainc, DR yn Denmark a HBO ymhlith eraill. Y newyddiadurwr a'r cyfarwyddwr ffilm Adam Benzine yw awdur a chyfarwyddwr y ffilm, gyda Kimberley Warner yn cyd-gynhyrchu. Mae Kimberley yn gynhyrchydd ffilmiau annibynnol profiadol, ac mae hi hefyd yn goruchwylio datblygiad o fewn asiantaeth Ffilm Cymru - y gronfa loteri ar gyfer datblygu ffilmiau yng Nghymru.
Mae'r ffilm yn cynnwys tair iaith: Ffrangeg, Almaeneg a Saesneg, ac mi fydd S4C yn cael dangos y ffilm gydag isdeitlau Cymraeg a'r teitl Claude Lanzmann: Cysgodion y Shoah.
Mae cynhyrchydd y ffilm, Kimberley Warner, yn falch fod y ffilm yn cael ei dangos yng Nghymru yn ystod cyfnod cyffrous Gwobrau'r Oscars, ac yn edrych ymlaen at glywed barn amdani;
"Bu hi'n dair blynedd epig o waith i sicrhau ariannu a chreu'r ddogfen yma. Roedd galw ar Adam a minnau i wneud popeth, o'r gwaith papur i'r broses negydu cymhleth, a gyda hynny roeddem yn dod wyneb yn wyneb â gwaith Claude bob dydd, ac roedd hynny yn gallu bod yn emosiynol. Mae'n anhygoel meddwl y bydda i, cyn hir, yn mynd i wobrau Academi America ac y bydd y ffilm yn cael ei dangos ar S4C ychydig cyn y seremoni. Y gwrthgyferbynnu yma sy'n cyfoethogi'r gwaith o greu rhaglenni dogfen: y cyferbyniad rhwng glamour y gwobrau a gwaith caled y tîm bychan o gynhyrchwyr er mwyn cwblhau'r gwaith; rhwng ein chwilfrydedd mewn bywydau a bydoedd gwahanol, ac yna dod â'r gwaith adref i'ch gwlad enedigol a gofyn yn betrusgar, "be' ydych chi'n meddwl ohoni?"."
Mae'r ffilm 40 munud Claude Lanzmann: Cysgodion y Shoah yn gofnod o brofiadau'r cynhyrchydd ffilmiau Claude Lanzmann, crëwr y ffilm ddogfen epig Shoah a ryddhawyd yn 1985. Derbyniodd y ffilm Shoah glod rhyngwladol am ei ymdriniaeth o hanes yr Holocost. Mae'n ffilm naw awr o hyd ac yn gyfanwaith 12 blynedd o ymchwil a chyfweliadau yn adrodd hanes yr Holocost trwy eiriau llygaid dystion.
Meddai Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys Ffeithiol S4C, sy'n gyfrifol am ddod a'r ffilm i S4C;
"Mae hon yn ffilm ddogfen sydd wedi ei chydnabod yn rhyngwladol gan wobrau Academi America gan drin ag un o ddigwyddiadau mwyaf erchyll hanes Ewrop, yr Holocost. Mae'n edrych ar hanes creu'r ffilm epig Shoah yng ngeiriau'r cyfarwyddwr Claude Lanzmann. Mae ganddo stori anhygoel i'w rhannu, a phrofiadau sydd yn anodd eu hamgyffred, ond sy'n cael eu hadrodd yn rhyfeddol yn y ffilm hon sy'n gynhyrchiad gan Gymraes o Gonwy. Mae'n anrhydedd dangos y ffilm ar S4C."
Yn y ffilm Claude Lanzmann: Cysgodion y Shoah, mae Claude yn sôn sut y gwnaeth berswadio rhai o oroeswyr yr Holocost i siarad ar gamera, a sut y gwnaeth gofnodi tystiolaeth rhai o aelodau'r blaid Natsïaidd, drwy ffilmio cudd. Mae e hefyd yn sôn am ei hanes personol yn ymladd gyda'r Gwrthwynebwyr Ffrengig yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Mae'r ffilm rymus wedi ei dangos mewn gwyliau ffilm mewn sawl gwlad ers y première yng ngŵyl Hot Docs Toronto, Canada ym mis Awst 2015. Cafodd ei dangos yn y DU am y tro cyntaf yng ngŵyl ffilm Sheffield Doc/Fest ym 2015, ac yna yng ngŵyl UK Jewish Film Festival yn Llundain yn yr hydref. Cafodd y ffilm ei dangos yn Nghymru am y tro cyntaf yn Theatr Colwyn, Bae Colwyn, ym mis Hydref 2015.
Mae'r ffilm yn cael ei chynhyrchu ar gyfer y dangosiad isdeitlau Cymraeg ar S4C gan Rondo Media. Mae'r ffilm yn cael ei dangos gan ddarlledwyr ar draws y byd. Hyd yma, mi fydd yn cael ei dangos gan ZDN yn yr Almaen a DR yn Denmarc, a gan HBO yn yr UDA.
Diwedd
Nodiadau
Kimberley Warner
Mae Kimberley Warner yn gynhyrchydd annibynnol sy'n dod yn wreiddiol o Gonwy. Mae hi hefyd goruchwylio datblygiad asiantaeth Ffilm Cymru - y gronfa loteri ar gyfer datblygu ffilmiau yng Nghymru. Mae hi'n gyn Bennaeth Datblygu a Phryniannau ar gyfer y dosbarthwyr rhaglenni a ffilmiau dogfen Mercury Media a Journeyman Pictures ac mae Kimberley wedi cefnogi gwaith cynhyrchwyr ffilmiau o safon uchel, fel Orlando von Einsiedel, Michael Glawogger, James Moll a Ken Loach.