Mae S4C wedi cyhoeddi’r rhestr fer o wyth o ganeuon fydd yn cystadlu am wobr Cân i Gymru 2016 – a’r wobr ariannol gwerth £5000.
Mae’r gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn fyw ar y sianel nos Sadwrn, 5 Mawrth. Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris fydd yn cyflwyno’r noson o stiwdios BBC Cymru, Caerdydd.
Y tro hwn, y gwylwyr yn unig fydd yn penderfynu pwy fydd yn ennill a hynny trwy bleidlais ffôn.
Fe fydd y rhifau ffôn ar gyfer pleidleisio yn cael eu datgelu ar y noson a’r llinellau yn cael eu hagor ar ôl i’r wyth cân gael eu perfformio.
Bydd yna hefyd wobr ychwanegol, sef Tlws y Beirniaid, i’r gân fydd y tri beirniad yn dewis ar y noson.
Meddai Elen Rhys, Comisiynydd Cynnwys Adloniant S4C, "Mae yna amrywiaeth dda o ganeuon ar y rhestr fer - a digon o ddewis felly i’n gwylwyr. Mae enwau newydd a chyfarwydd, yn gyfansoddwyr a pherfformwyr yn cymryd rhan ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at gystadleuaeth gyffrous."
Mae’r cyfansoddwyr a’r cantorion wedi bod yn gweithio ar eu caneuon o dan arweiniad tîm y cwmni cynhyrchu Avanti.
Yr wyth can sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yw:
Caru nhw i gyd gan Sïon Meirion Owens
Actor Gorau Cymru gan Barry Jones
Y Penderfyniad gan Beth Williams-Jones a Sam Humphreys
Caeth gan Sarah Wynn
Dim ond un gan Cordia
Ar ei ffordd gan Alun Evans
Cannwyll gan Geth Vaughan
Meddwl am ti gan Kizzy ac Eady Crawford
Mae S4C hefyd yn rhoi’r cyfle i wylwyr bleidleisio am eu hoff gan fuddugol o’r gorffennol ers i’r sianel ddechrau darlledu’r digwyddiad yn 1982. Gallwch wneud hynny ar wefan S4C.
Mae rhestr o 33 cân fuddugol yn y pôl gan ddechrau gyda Nid Llwynog Oedd yr Haul gan Myrddin ap Dafydd a Geraint Lovgreen yn 1982 i Y Lleuad a'r Sêr gan Arfon Wyn a Richard James Roberts yn 2015.
Bydd y gân fwyaf poblogaidd yn cael ei pherfformio ar 5 Mawrth fel rhan o ddathliadau Cân i Gymru 2016. Mae’r pôl yn cau ar 29 Chwefror.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?