25 Chwefror 2016
Ar gyfer Gŵyl Ddewi eleni mae S4C yn galw ar bobl i wylio rhai o raglenni'r sianel am y tro cyntaf gyda chymorth y gwasanaeth isdeitlau. Mae gan S4C gynnwys sy'n apelio at bawb ond nid pawb sy'n gwybod bod isdeitlau Saesneg ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o'r rhaglenni.
Felly, mae S4C yn lledu'r neges gyda chymorth 'Bob' cymeriad wedi ei animeiddio. Dydi Bob ddim wastad yn gallu dilyn beth sy'n digwydd ar y sgrin pan mae'n gwylio S4C ond wrth droi'r isdeitlau ymlaen mae Bob yn gallu mwynhau'r rhaglenni, ac mae Bob yn hapus. Os ydych chi'n adnabod rhywun fel Bob, beth am eu hannog nhw i wneud yr un peth?
Bydd stori Bob i'w gweld ar y sgrin ac ar gyfryngau cymdeithasol fel rhan o'r ymgyrch dros gyfnod Gŵyl Ddewi i ddangos bod S4C yn sianel ar gyfer pawb. Yn rhan o hynny, am bum niwrnod, o 29 Chwefror hyd 4 Mawrth, bydd mwy o raglenni S4C yn dangos yr isdeitlau yn barod ar y sgrin.
Meddai Prif Weithredwr S4C Ian Jones, y nod yw codi ymwybyddiaeth o'r gwasanaeth isdeitlau eang sydd eisoes ar gael i bawb;
"Mae Gŵyl Ddewi yn ddiwrnod sy'n uno Cymru fel cenedl, ac eleni rydym eisiau estyn at bobl sydd yn teimlo nad yw S4C yn sianel ar eu cyfer nhw. Rydym yn derbyn adborth yn aml fod pobl yn dymuno gwylio, ond yn credu nad ydyn nhw'n gallu, a'r prif reswm am hyn yw nad oes ganddyn nhw hyder yn eu hiaith neu am nad ydyn nhw'n gallu deall Cymraeg o gwbl. Yn aml hefyd dydyn nhw ddim yn sylweddoli fod isdeitlau ar gael i'w helpu i wylio y rhan fwyaf o'n rhaglenni," meddai Ian Jones.
"Mae'r rhaglenni amrywiol, o safon ardderchog, sydd ar S4C yn golygu y gallwn ni gynnwys pawb yn ein gwaith gan ein gosod yng nghanol bywyd pobl Cymru. Drwy godi ymwybyddiaeth o'r gwasanaeth isdeitlo, rydym yn estyn at siaradwyr llai rhugl a gwylwyr di-Gymraeg. Hefyd rydyn am gyrraedd cartrefi cymysg ei hiaith ble mae un neu sawl aelod o'r teulu ddim yn deall Cymraeg. Mae isdeitlau yn golygu fod pawb yn y tŷ yn gallu gwylio S4C gyda'i gilydd ac yn agor y drws i'r Gymraeg yn y cartref.
"Felly, am bum niwrnod penodol rydym yn awyddus i ddenu sylw at ba mor rhwydd yw hi i wylio S4C bob dydd gyda chymorth isdeitlau. Beth am annog rhywun rydych chi'n ei adnabod i wylio S4C am y tro cyntaf dros gyfnod Gŵyl Ddewi?"
Mae isdeitlau ar gael ar lawer o raglenni S4C gydol y flwyddyn drwy ei troi ymlaen ar eich set deledu neu dyfeisiadau symudol. Mae sut i droi isdeitlau ymlaen yn amrywio o deledu i deledu ac o Ap i gyfrifiadur ond os oes angen help arnoch mae Gwifren Gwylwyr S4C ar gael. Mae'r Wifren ar agor bob dydd o 9.00 y bore tan 10.00 y nos drwy ffonio 0370 600 4141 (Ni fydd galwadau’n costio mwy na galwad gyfradd genedlaethol i rifau 01 neu 02.) e-bost gwifren@s4c.cymru neu ar Twitter @S4C a Facebook.com/s4c.cymru
Diwedd
Nodiadau i Olygyddion:
Mae isdeitlau Saesneg ar gael ar y rhan fwyaf o raglenni S4C ar deledu ac ar ddyfeisiadau symudol. Yn ystod 2014/15 roedd isdeitlau ar gael ar gyfer 78% o raglenni S4C.
Er mwyn gwylio g isdeitlau mae angen ei troi ymlaen yn defnyddio eich teclyn teledu neu eich dyfais symudol. Mae S4C yn dangos rhai rhaglenni gydag isdeitlau yn barod ar y sgrin; ail-ddarllediadau fel drama a dogfen.
Os am gymorth er mwyn cael gwybod pa raglenni sydd ag isdeitlau neu sut i gael yr isdeitlau ar eich set deledu neu ddyfais symudol, cysylltwch â Gwifren Gwylwyr S4C. Ar agor bob dydd o 9.00 y bore tan 10.00 y nos drwy ffonio 0370 600 4141 (Ni fydd galwadau’n costio mwy na galwad gyfradd genedlaethol i rifau 01 neu 02.) e-bost gwifren@s4c.cymru neu ar Twitter @S4C a Facebook.com/s4c.cymru
Y rhaglenni ychwanegol fydd ag isdeitlau yn barod ar y sgrin rhwng 29 Chwefror a 4 Mawrth:
Llun 29 Chwefror
16:00 Awr Fawr
20:00 Pobol y Cwm
20:25 Ceffylau Cymru
21:30 Ffermio
Mawrth 01 Mawrth
16:00 Awr Fawr
19:30 Rownd a Rownd
20:00 Pobol y Cwm
20:25 Ward Plant
Mercher 02 Mawrth
16:00 Awr Fawr
19:30 Natur Gwyllt Iolo
20:00 Pobol y Cwm
20:25 Gwaith/Cartref
Iau 03 Mawrth
16:00 Awr Fawr
19:30 Rownd a Rownd
20:00 Pobol y Cwm
20:25 Celwydd Noeth
21:30 Pobol y Rhondda
22:00 Hacio
22:30 Ochr 1: Gwobrau’r Selar
Gwener 04 Mawrth
16:00 Awr Fawr
20:00 Pobol y Cwm
20:25 Sam ar y Sgrin
21:30 Jonathan