03 Mawrth 2016
Mae partneriaeth S4C ac Awen Media gyda chwmni teledu o Dde Corea wedi ennill rhagor o fri wrth i'r Gymdeithas Deledu Frenhinol (RTS) gyhoeddi ei rhestr enwebiadau ar gyfer gwobrau 2016.
Mae'r rhaglen ddogfen Dagrau o Waed: Rhyfel Corea yn gobeithio am wobr RTS yn y categori Hanes. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi nos Fawrth 22 Mawrth.
Dyma'r ail dro o fewn wythnosau i'r rhaglen hon dderbyn enwebiad am wobr gan sefydliad uchel ei barch.
Ym mis Chwefror, fe wnaeth Gŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd 2016 gyhoeddi bod Dagrau o Waed: Rhyfel Corea wedi ei henwebu am wobr Materion Cenedlaethol/Rhyngwladol. Bydd enillydd y wobr yma’n cael ei gyhoeddi ar 19 Ebrill.
Cafodd Dagrau o Waed: Rhyfel Corea ei chreu gan gwmni Awen Media, ac mae hi'n rhan o bartneriaeth rhwng S4C a'r sianel Jenonju Television (JTV) yn Ne Corea.
Mae hi'n un o bedair rhaglen ddogfen Gymraeg sydd wedi eu cynhyrchu ar y cyd â JTV, ac yn ôl Comisiynydd Cynnwys Ffeithiol S4C, Llion Iwan, mae S4C eisiau gweithio i wneud mwy.
Dywedodd Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys Ffeithiol S4C, "Llongyfarchiadau i Awen Media am yr enwebiad yma gan RTS, a hynny mor fuan ar ôl yr enwebiad yng ngwobrau Rhyngwladol Efrog Newydd. Mae Gwobrau RTS yn glod i'r cynnwys gorau ar deledu yn y DU, a dwi'n falch iawn o weld y rhaglen hon yn eu plith eleni.
"Rydyn ni'n falch iawn hefyd o'n perthynas gyda JTV. Hyd yma, rydyn ni a chynhyrchwyr annibynnol Cymru wedi creu pedair rhaglen ddogfen drawiadol. Heb y bartneriaeth yma mi fyddai wedi bod yn anodd i S4C gynhyrchu'r rhaglenni – a dyma un o fanteision mawr partneriaethau fel hyn. Mae gweithio gyda chwmnïau rhyngwladol hefyd yn golygu bod enw da S4C yn cael ei weld gan gwmnïau teledu ar draws y byd ac yn denu eu sylw nhw at Gymru a'r iaith Gymraeg. Rydyn ni am wneud mwy o gyd-gynyrchiadau rhyngwladol a dwi’n awyddus i barhau â'r berthynas gyda JTV sydd wedi bod yn werthfawr iawn hyd yma."
Un o'r rhaglenni sydd wedi ei chreu gan y bartneriaeth gyda JTV yw'r ddogfen Philip Jones Griffiths: Ffotograffydd Rhyfel, sy'n gynhyrchiad gan Rondo Media. Y ffotograffydd o Ruddlan oedd yn gyfrifol am rai o ddelweddau mwyaf eiconig Rhyfel Fietnam, ac fe gafodd y rhaglen hon ei dangos ar S4C nos Sul 28 Chwefror. Gallwch ei gwylio eto ar-lein ar alw ar wefan s4c.cymru
Rhaglen arall gan Awen Media, sy'n ffrwyth y bartneriaeth yma yw Gohebwyr: Jon Gower. Mae’r rhaglen yn adrodd hanes y cenhadwr Protestannaidd Robert Jermain Thomas o Lanofer, sy'n arwr yn Ne Corea. Hefyd yn y gyfres Gohebwyr, roedd y rhaglen Gohebwyr: John Hardy gan Rondo Media. Ynddi mae John Hardy yn dilyn ôl traed ei dad fu'n brwydo yn Rhyfel Corea. Fe wnaeth bum miliwn o bobl wylio'r rhaglen hon pan gafodd hi ei dangos gan JTV yn Ne Corea.
Diwedd