Gyrfa, rhyw a chyffuriau... galw ar Gymry ifanc i rannu eu profiadau yn rhan o brosiect ar draws Ewrop
11 Ebrill 2016
Heddiw yw'r cyfle cyntaf i Gymry ifanc gymryd rhan mewn prosiect ar-lein fydd yn cymharu eu bywydau nhw gyda phobl ifanc ar draws Ewrop.
Ar ddydd Llun, 11 Ebrill, cafodd prosiect Generation Beth ei lansio yng Nghymru ac mewn 11 gwlad arall yn Ewrop: Yr Almaen, Awstria, Gwlad Belg, Sbaen, Yr Eidal, Iwerddon, Gwlad Groeg, Lwcsembwrg, Yr Iseldiroedd, Ffrainc a'r Weriniaeth Tsiec.
Mae'n brosiect ar gyfer pobl ifanc 18 i 34 oed, a'r brif elfen yw'r holiadur ar-lein sy'n holi am bob math o bynciau: arian, bywyd personol, rhyw, teulu, ffrindiau, byd gwaith a’r gyfraith.
Mae'r holiadur yn gwbl gyfrinachol, ond ar ei ddiwedd mae'n bosib cymharu atebion gydag atebion pobl eraill yng Nghymru ac ym mhob gwlad sy'n cymryd rhan. I lenwi'r holiadur ewch i wefan generationbeth.s4c.cymru
Yn ogystal â’r holiadur, bydd S4C yn dangos cyfres o bedair rhaglen ddogfen sydd yn portreadu pobl ifanc o’r holl wledydd sy’n cymryd rhan, yn dechrau ar 13 Mai. Yn eu plith mae portread o’r gantores Efa Thomas o Gricieth, sy’n canu gyda’i phrosiect Supertramp.
Meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys S4C, "Mae hwn yn brosiect uchelgeisiol ac yn hynod o gyffrous. Byddwn ni'n cael darlun eang o fywyd ar draws Ewrop, ac mae rhai o'r cwestiynau yn eithaf personol all wneud i chi gochi! Ond, mae'r holiadur yn gwbl gyfrinachol, felly peidiwch dal nôl. Ewch ati i'w lenwi, a byddwch yn onest!"
Mae'r prosiect yng Nghymru yn cael ei arwain gan S4C a'r cwmni cynhyrchu Cwmni Da. Dyma arolwg cyntaf o’i fath sy’n portreadu cenhedlaeth gyfan a’r bwriad yw ymchwilio i uchelgeisiau, gobeithion ac ofnau’r genhedlaeth ifanc yn yr oes fodern.
Mae Generation Beth yn esblygiad o Generation Quoi, arolwg a gynhaliwyd yn Ffrainc yn 2013 i greu portread o'r genhedlaeth rhwng 15 a 34 oed. Mae'n cael ei gynhyrchu gan France Télévisions, Upian, a Yami 2, mewn partneriaeth â'r EBU yn ogystal â 16 o ddarlledwyr Ewropeaidd gan gynnwys S4C.
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?