07 Gorffennaf 2017
S4C yw'r unig ddarlledwr daearol yn y DU sy’n darlledu arlwy taith Llewod ac Iwerddon yn rhad ac am ddim ac fe fydd y sianel yn dangos uchafbwyntiau estynedig o'r prawf olaf rhwng y Crysau Duon a'r Llewod nos Sadwrn 8 Gorffennaf am 6:30 pm.
Bydd isdeitlau Saesneg ar gael ar y rhaglen a fydd ar gael i'w gwylio ar Sky, Freesat, Virgin Media ar draws y DU, yn ogystal ag ar Freeview yng Nghymru, ac ar alw ar-lein yn S4C.cymru, BBC iPlayer a llwyfannau eraill.
Mae Comisiynydd Cynnwys Chwaraeon S4C, Sue Butler yn falch o ymateb y cyhoedd i'r rhaglenni.
Meddai Sue Butler, “Mae pobl wedi gwerthfawrogi'r rhaglenni uchafbwyntiau, boed yn siaradwyr Cymraeg neu beidio. Mae’r isdeitlau Saesneg wedi cyflwyno ein tîm darlledu i gynulleidfa newydd i'r cyhoedd newydd ledled y DU ac mae gwylwyr wedi ymateb yn frwdfrydig i’n pyndits a’u barn onest a dadansoddi craff."
"Yn union fel y rhaglenni Ewro 2016 y llynedd, mae wedi bod yn hwb i’r Gymraeg hefyd, gan ddangos ein bod yn cynnig darllediadau o’r ansawdd uchaf yn yr iaith ar S4C."
Cynhyrchwyr y rhaglenni yw Sunset & Vine Cymru a Sports Media Services, gyda’r cyflwynydd Catrin Heledd yn arwain tîm sy’n cynnwys y sylwebwyr Gareth Rhys Owen ac Wyn Gruffydd a thîm dadansoddi o gyn-chwaraewyr rhyngwladol fel Dafydd Jones, Gwyn Jones, y brodyr Nicky a Jamie Robinson, Emyr Lewis, Robert Jones, Deiniol Jones ac Andrew Coombs.
Fe wnaeth cyn-Lewod fel Gerald Davies a Gareth Edwards gymryd rhan yn yr ymgyrch gyhoeddusrwydd, yng nghwmni capten presennol y Llewod, Sam Warburton. (Gweler llun)
Meddai Sue, "Rydym yn darparu darllediadau yn rhad ac am ddim o ddigwyddiadau chwaraeon, cenedlaethol a rhyngwladol, sy'n apelio i gefnogwyr chwaraeon ledled Cymru.”
Mae'n haf prysur i dimau cynhyrchu chwaraeon y sianel. Yn ogystal ag uchafbwyntiau’r Llewod, mae S4C yn dangos y Tour de France gyda rhaglenni byw ac uchafbwyntiau, uchafbwyntiau'r Velothon Cymru a Marathon Eryri o amgylch yr Wyddfa ymhlith digwyddiadau chwaraeon eraill.
Ond a yw Sue Butler yn barod i roi ei phen ar y bloc a phroffwydo pwy fydd yn ennill brwydr Auckland?
"Rwy'n optimistaidd ac yn rhagweld y bydd Liam Williams yn sgorio gôl adlam i ennill y gyfres. Mae hyn i gyd yn bosibl."
Mae S4C ar gael ar:
Sky 104 yng Nghymru
Freeview 4 yng Nghymru
Virgin TV 166 yng Nghymru
Freesat 104 yng Nghymru
Sky 134 yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Freesat 120 yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Virgin TV 166 yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
S4C HD ar Sky a Freesat yng Nghymru ac ar draws y DU
Ar-lein ac ar alw ar s4c.cymru
Mae modd gwylio S4C yn fyw ledled y DU ar wefan tvcatchup.com a TVPlayer.com
Mae rhaglenni S4C hefyd ar gael ar YouView a BBC iPlayer