Y gân Dim ond un gan Ffion Elin a Rhys Jones sydd wedi ennill tlws Cân i Gymru 2016 S4C a’r wobr ariannol o £5,000.
Cynhaliwyd y gystadleuaeth ar nos Sadwrn 5 Mawrth yn Stiwdios y BBC yn Llandaf a’i darlledu’n fyw ar S4C. Yn cyflwyno roedd y cyflwynydd teledu Trystan Ellis-Morris a’r gantores a’r cyflwynydd teledu Elin Fflur.
Mae Ffion Elin yn un o’r chwech sy’n canu gyda’r band o Borthaethwy, Cordia, “Thema'r gân yw salwch meddwl. Neges y gân yw bod bob amser rhywun yno sy’n medru helpu a ‘da chi ddim ar eich pen eich hunain. Mae ein hathrawes gerddoriaeth yn Ysgol David Hughes, Gwennant Pyrs wedi ennill Cân i Gymru o’r blaen gyda’r gân Dal i Gredu ac mae hi wedi bod yn ysbrydoliaeth i ni gymryd rhan yn y gystadleuaeth.”
Roedd hefyd gwobr ychwanegol eleni am hoff gan y beirniaid, sef Tlws y Beirniaid. Cordia gafodd ei wobrwyo gan y beirniaid.
Meddai Elen Rhys, Comisiynydd Adlonaint S4C, “Llongyfarchiadau mawr i enillydd Cân i Gymru 2016 ac i’r holl berfformwyr am noson llawn egni a thalent. Roedd hi’n braf cael gweld enwau newydd a chyfarwydd, yn gyfansoddwyr a pherfformwyr yn cymryd rhan. Llongyfarchiadau a phob lwc i Cordia wrth fynd ymlaen i berfformio yn yr Wyl Ban-Geltaidd.”
Yn cystadlu yn y rownd derfynol am y teitl o enillydd Can i Gymru oedd: Caru nhw i gyd gan Sïon Meirion Owens, Actor Gorau Cymru gan Barry Jones, Y Penderfyniad gan Beth Williams-Jones a Sam Humphreys, Caeth gan Sarah Wynn , Dim ond un gan Cordia, Ar ei ffordd gan Alun Evans, Cannwyll gan Geth Vaughan a Meddwl am ti gan Kizzy ac Eady Crawford.
Ar y panel o feirniaid eleni roedd y gantores Alys Williams, y cyflwynydd Guto Rhun a’r cyfansoddwr Robert Arwyn.
Y gwylwyr oedd yn gyfrifol am ddewis yr enillydd a hynny drwy bleidlais ffon. I wylio’r rhaglen eto, ewch i wefan s4c.cymru
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?