Mewn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth y DU mai Euryn Ogwen Williams sydd i gadeirio adolygiad llywodraeth San Steffan i S4C dywedodd Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C:
“Rydym yn falch iawn o’r cyhoeddiad hwn gan y Llywodraeth ynglŷn ag adolygiad S4C, ac mai Euryn Ogwen Williams, darlledwr profiadol a dadansoddwr praff o ddyfodol y cyfryngau, sydd wedi cael y cyfrifoldeb o’i arwain.
“Yn gynharach eleni fe wnaethon ni gyhoeddi ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol gwasanaethau cyfryngol Cymraeg yn y ddogfen ‘S4C: Gwthio’r Ffiniau’, gyda phwyslais ar gael rhyddid i fanteisio’n llawn ar gyfleoedd y cyfryngau digidol, ac ar sefydlu prosesau tryloyw ar gyfer cyllido’r weledigaeth.
“Bydd yr adolygiad yn gyfle arbennig i nodi pwysigrwydd cyfraniad unigryw gwasanaeth S4C i ddiwylliant ac economi Cymru a’r Deyrnas Unedig, ac i ddyfodol yr iaith Gymraeg.
“Rydym yn edrych ymlaen at drafod y weledigaeth hon gyda’r adolygydd, a gyda’r cyhoedd, wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen."