Dadl dros S4C yn gryfach heddiw na 1982 – Cadeirydd S4C
06 Ebrill 2016
Mae'r ddadl dros S4C, fel sianel deledu i wasanaethu siaradwyr Cymraeg, yn gryfach heddiw na phan sefydlwyd yn sianel ym 1982, meddai Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones.
Bydd Huw Jones yn siarad yng nghynhadledd Dyfodol Gwasanaeth Teledu Cyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd, ar nos Fercher 6 Ebrill, 2016, ble bydd yn pwysleisio pwysigrwydd y gwasanaeth i ddarparu llwyfan credadwy a chreadigol ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Meddai Huw Jones, Cadeirydd S4C; "Mae'r pwyntiau sylfaenol am bwysigrwydd teledu ar gyfer dyfodol yr iaith Gymraeg yn union yr un rhai ag enillodd y ddadl i greu S4C yn 1982. Ond faint cryfach yw'r dadleuon yna heddiw pan mae'r hyn sy'n cael ei gynnig i wylwyr trwy gyfrwng yr iaith Saesneg yn debycach i fwy na 500 o sianeli tra yn y Gymraeg 'da ni'n dal i ddibynnu ar ddim ond un?"
Ffocws y gynhadledd yw rôl a chyfrifoldeb teledu Prydeinig mewn byd digidol yr 21ain Ganrif, ac yn ôl Huw Jones, mae S4C yn allweddol er mwyn cynnal yr iaith Gymraeg fel cyfrwng credadwy a pherthnasol yn yr oes honno - a bod cysylltiad pendant rhwng hynny a dyfodol yr iaith;
Meddai Huw Jones; "Er mwyn i'r Gymraeg fod yn llwyfan ar gyfer creadigrwydd a chyfathrebu mewn byd cyfnewidiol a symudol, mae ar yr iaith a'r bobl sydd yn ei siarad angen presenoldeb cystadleuol, credadwy, ar lwyfannau cyfryngol pwysicaf y dydd. Beth bynnag yw'r cyfleoedd newydd sy'n cael eu creu gan y we a'i ffenestri amrywiol, teledu – yn ei ystyr ehangaf – sy'n parhau i fod yn brif lwyfan ein dyddiau ni.
"Tydi pob iaith leiafrifol ddim wedi cael llwyfan tebyg i'r un y mae S4C wedi'i ddarparu dros y 34 mlynedd diwethaf. Tydi bob iaith leiafrifol ddim yn wynebu'r dyfodol gyda'r hyder cymharol sy'n wir am y Gymraeg. Mae yna gysylltiad rhwng y ddau beth."
Mae Cadeirydd S4C, Huw Jones yn siarad yn rhan o gynhadledd Dyfodol Gwasanaeth Teledu Cyhoeddus, yng Nghaerdydd. Mae'r digwyddiad yn un o nifer yn rhan o Ymchwiliad yr Arglwydd Puttnam i ddyfodol gwasanaeth teledu cyhoeddus.
Ymhlith y siaradwyr yn y drafodaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ar 6 Ebrill mae Angharad Mair, Tinopolis a BAFTA Cymru; Ian MacKenzie, Pennaeth Cenhedloedd a Rhanbarthau Channel 4; Angela Graham, Sefydliad Materion Cymreig; Rhys Evans, Pennaeth Strategaeth a Digidol BBC Cymru, gyda Sian Powell o Brifysgol Caerdydd yn cadeirio.
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?