20 Ebrill 2016
Mae'r gyfres ddrama drosedd Y Gwyll/Hinterland wedi ennill prif wobr Gŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd 2016.
Mae Y Gwyll wedi ennill gwobr y 'Grand Award'; gwobr sy'n cael ei rhoi i ddetholiad bychan o raglenni sydd wedi ennill sgôr uchel gan y beirniaid – o blith yr holl enwebiadau.
Tri cynhyrchiad sydd wedi eu dewis ar gyfer y 'Grand Award' eleni; sef Y Gwyll, 'Earth is Yours' (BBC Worldwide / Singapore), a 'The Roosevelts: An Intimate History' (PBS / USA).
Mae Y Gwyll, sy'n gynhyrchiad gan Fiction Factory, hefyd wedi ennill y Fedal Aur yn y categori Drama Drosedd.
Mi fydd y newyddion yn cael croeso cynnes yng Ngheredigion lle mae'r cast a'r criw yn ffilmio'r drydedd gyfres ar gyfer ei dangos ar S4C yn gyntaf yn yr hydref, ac yna'n hwyrach ar BBC Cymru.
Roedd y 'Grand Award' a'r Fedal Aur i'r Gwyll yn goron ar noson lwyddiannus iawn i gynnwys S4C gyda dwy fedal arall – Arian ac Efydd - yn cael eu hennill. Cafodd y seremoni ei chynnal yn Las Vegas ar ddydd Mawrth, 19 Ebrill, ac roedd 50 o wledydd yn cystadlu am y gwobrau.
Rhoddwyd Medal Arian i Patagonia Eric Jones ac Ioan Doyle, gan Boom Cymru, yn y categori Chwaraeon a Hamdden. Mae'r ffilm yn dilyn y ddau ddringwr o Wynedd ar daith i'r Ariannin.
Ac roedd Medal Efydd i'r ddogfen Dagrau o Waed: Rhyfel Corea yn y categori Materion Cenedlaethol/Rhyngwladol. Roedd y ddogfen emosiynol yn gyd-gynhyrchiad rhwng S4C, Awen Media a JTV yng Nghorea, ac yn adrodd atgofion dau gyn-filwr fu'n brwydro yn Rhyfel Corea; Meirion Davies o Frynaman a Young-Bok Yoo o Dde Corea.
Roedd enwebiad hefyd i'r gyfres bobl ifanc Llond Ceg, gan Green Bay Media, ac fe dderbyniodd glod am gyrraedd y rownd derfynol.
Mae Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys, wrth ei fodd gyda'r anrhydeddau eleni. Meddai Dafydd Rhys, "Dyma'r flwyddyn orau ers rhai blynyddoedd i gynnwys S4C yng Ngwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd, a llongyfarchiadau mawr i bawb am eu medalau. Unwaith eto, mae gwaith a chreadigrwydd y sector gynhyrchu yng Nghymru wedi dal sylw'r byd ac yn dod â bri rhyngwladol i Gymru a'r gwaith gwych sy'n digwydd yma. Da iawn bawb."
Mae S4C wedi bod yn llwyddiannus yng Ngŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd yn y blynyddoedd diweddar. Yn 2015 roedd medal Efydd i Adam Price a Streic y Glowyr (Tinopolis) a medal Arian i Gwirionedd y Galon: Dr John Davies (Telesgop). Yn 2014 fe enillodd Taith Fawr y Dyn Bach (Cwmni Da) Wobr Arian, a'r rhaglen Karen (Cwmni Da) Wobr Efydd. Ac yn 2013 roedd Gwobr Aur i Fy Chwaer a Fi (Bulb Films, rhan o Boom Pictures Cymru).
Diwedd