S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ffilm Yr Ymadawiad yn ennill gwobr Geltaidd

22 Ebrill 2016

Mae’r ffilm Yr Ymadawiad wedi ennill y wobr Drama Sengl yng Ngwobrau’r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd.

Fe wnaeth y ffilm guro rhestr fer gref o ddramâu a ffilmiau, gan gynnwys ffilm arall o stabl S4C, Y Streic a Fi, yn yr ŵyl gyfryngau sy’n cael ei chynnal yn Dungarvan, Iwerddon yr wythnos hon.

Mae’r ffilm bwerus, a gafodd ei chynhyrchu gan gwmni Severn Screen mewn cydweithrediad â ` Boom Pictures a Ffilm Cymru Wales ar gyfer S4C, ar hyn o bryd ar daith sinemâu.

Cafodd ei hysgrifennu gan Ed Talfan, sy’n un o grewyr y gyfres dditectif lwyddiannus Y Gwyll/Hinterland hefyd, a’i chyfarwyddo gan y cyfarwyddwyr adnabyddus Gareth Bryn. Bydd y ffilm yn cael ei darlledu yn y dyfodol ar S4C.

Prif sêr y ffilm yw Mark Lewis Jones fel y dyn unig Stanley ac Annes Elwy a Dyfan Dwyfor fel y cwpwl ifanc. Pan mae’r cwpwl ifanc Sara ac Iwan yn cael damwain car ac yn landio mewn nant ger ffermdy anghysbell, mae Stanley yn dod i’w helpu. Ond mae aflonyddu ar fywyd unig Stanley yn cael effaith annisgwyl ar eu bywydau nhw i gyd.

Meddai Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys, “Llongyfarchiadau I bawb sydd y tu ôl i gynhyrchu’r ffilm bwerus hon. Mae’n waith creadigol o’r safon uchaf sy’n llawn teilyngu’r wobr.”

Ychwanegodd Ed Talfan o gwmni Severn Screen, “Rydym ar ben ein digon yn ennill y wobr hon. Mae cefnogaeth Ffilm Cymru Wales ac S4C yn allweddol i lwyddiant y ffilm, ynghyd ag ymroddiad ein cyfarwyddwr, cast a chriw rhyfeddol.”

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?