16 Mai 2016
Mae S4C a’r elusen Street Football Wales wedi dod ynghyd fel partneriaid er mwyn codi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer yr elusen sy'n helpu pobl ddigartref a phobl sydd wedi'u heithrio'n gymdeithasol trwy weithgareddau pêl-droed.
Mae S4C yn trefnu taith ledled clybiau Cymru i ddathlu bod tîm pêl-droed Cymru wedi cyrraedd Pencampwriaeth UEFA Ewro 2016 yn Ffrainc a bydd y sianel yn codi arian ar gyfer elusen SFW ym mhob clwb.
Bydd y sianel yn darlledu tair gêm Grŵp B Cymru - yn erbyn Slofacia, Lloegr a Rwsia - wrth i Bale, Ramsey, Williams a'r tîm greu hanes drwy gynrychioli Cymru mewn pencampwriaeth bêl-droed ryngwladol am y tro cyntaf ers 1958. Yn ogystal â’r tair gem fyw, bydd llond cae o raglenni chwaraeon ac adloniant am y gêm brydferth ar S4C.
Mae Street Football Wales, sy’n derbyn cefnogaeth gan y grŵp Pobl, yn anelu at ail integreiddio pobl i gymdeithas ac yn eu hysbrydoli i fyw yn iachach ac yn fwy egnïol yn gorfforol ac yn feddyliol. SFW sydd y tu ôl gynlluniau fel tîm Digartref Pêl-droed Cymru, sydd ar hyn o bryd yn paratoi ar gyfer Cwpan y Byd i’r Digartref yn Glasgow ym mis Gorffennaf.
Am fwy o wybodaeth am SFW, ewch i www.streetfootballwales.org. Os ydych yn dymuno rhoi cyfraniad i SFW drwy'r apêl S4C, ewch i www.localgiving.org/fundraising/thehill
Bydd sêr tîm cyflwyno S4C yn ymweld â Llandudno, Bangor, Y Bala, Aberystwyth a Chaerfyrddin y mis hwn i gynnal sesiynau hyfforddi pêl-droed, fforwm holi ac ateb a chwis hwyliog ar wahoddiad pum clwb Uwch Gynghrair Cymru. Bydd y digwyddiadau hefyd yn gyfle i godi arian a thynnu sylw at Street Football Wales.
Meddai Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys, "Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio’n yn agos gydag elusen sydd drwy bêl-droed yn helpu i ailintegreiddio pobl ddigartref a phobl sydd wedi'u heithrio'n gymdeithasol yn ôl i gymdeithas. Mae'n dangos sut mae chwaraeon yn gallu ysbrydoli pobl i ddod at ei gilydd. Rydym yn gobeithio y bydd taith S4C yn helpu i godi ymwybyddiaeth am waith pwysig yr elusen."
Meddai Rheolwr Prosiect Street Football Wales, Keri Harris: "Mae Cwpan y Byd i’r Digartref yn ddigwyddiad hollbwysig yn ein calendr chwaraeon. Gan ein bod yn elusen, rydym yn dibynnu ar gyfraniadau i'n helpu i fynychu digwyddiadau chwaraeon o'r fath. Mae cael ein cynnwys yn nathliadau Cymru wrth gyrraedd cystadleuaeth Ewro 2016 yn anrhydedd fawr i'r chwaraewyr ac rwy'n falch iawn bod y gwaith yr ydym yn ei gyflawni er mwyn cefnogi ein chwaraewyr, sydd i gyd wedi bod yn ddigartref, yn cael sylw gyda chymorth S4C. Y gobaith yw y bydd pobl Cymru yn gweld bod Street Football Wales o fudd i'r bobl hynny y mae’r elusen yn gweithio gyda nhw."
Bydd y cyflwynydd Dylan Ebenezer neu'r sylwebydd Nic Parry yn arwain y nosweithiau yn y clybiau, a byddan nhw’n cael cwmni cyn chwaraewyr rhyngwladol Cymru fel Malcolm Allen, Iwan Roberts ac Owain Tudur Jones.
Mae croeso i unrhyw un ddod i’r nosweithiau yma, does yna ddim tâl mynediad, maen nhw’n rhad ac am ddim.
Bydd y daith yn ymweld â'r clybiau yma ar y dyddiadau canlynol, gan ddechrau am 5.30pm bob nos: Dydd Iau, 19 Mai - MBI Llandudno; Dydd Gwener 20 Mai - Bangor; Dydd Mawrth 24 Mai - Y Bala; Dydd Mercher 25 Mai - Penrhyncoch; Dydd Iau 26 Mai - Caerfyrddin.
Bydd cefnogwyr ifanc yn cael y cyfle i ddangos eu sgiliau a derbyn awgrymiadau oddi wrth y cyn-chwaraewyr rhyngwladol mewn sesiynau pasio a chicio a bydd Ash Randall, meistr sgiliau pêl-droed, sydd wedi torri sawl record y byd Guinness, yn ein cyfareddu gyda’i driciau.