01 Mehefin 2016
Mae S4C wedi cyhoeddi mai Amanda Rees yw Cyfarwyddwr Cynnwys newydd y sianel.
Amanda Rees yw Cyfarwyddwr Creadigol TiFiNi - cwmni a sefydlodd hi ei hun yn 2012. Mae hi'n arbenigo mewn cyd-gynhyrchu cyfresi a ffilmiau unigol i ddarlledwyr byd-eang gan gynnwys S4C, Channel 4, BBC, ITV Cymru, Channel 5, National Geographic, France Televisions, UKTV, A&E, RTE, Discovery a Foxtel Awstralia.
Mi fydd Amanda Rees yn dechrau yn ei rôl gyda S4C ar ôl yr haf.
Meddai Ian Jones, Prif Weithredwr S4C, y bydd ei phrofiad o weithio y tu allan i Gymru a gyda chwmnïau rhyngwladol yn werthfawr;
Meddai Ian Jones; "Mae Amanda Rees yn gynhyrchydd profiadol iawn, ac rydym wedi gweld llawer o'i gwaith ar S4C dros y blynyddoedd. Mae ei gwaith gyda chwmnïau y tu allan i Brydain yn werthfawr ac mi fydd ei dealltwriaeth o hynny yn bwysig iawn wrth i S4C adeiladu ar gyfleoedd i gyd-weithio gyda phartneriaid y tu hwnt i Gymru - yn y DU a thu hwnt. Rwy'n edrych ymlaen at ei chroesawu i'w rôl newydd."
Mae Amanda Rees yn edrych ymlaen at fynd i'r afael â'i her newydd yn hwyrach eleni. Meddai: “Rwy’n falch iawn o gael ymuno gyda'r tîm yn S4C ar gyfnod hynod o gyffrous yn stori’r sianel. Rwy’n edrych ymlaen at adeiladu ar lwyddiannau’r blynyddoedd diwethaf a manteisio ar bob cyfle i yrru’r sianel ymlaen i gyfeiriad creadigol ffres a mentrus ar draws y llwyfannau i gyd."
Dechreuodd Rees ei gyrfa gyda chwmni Opus gan weithio ar y cyd-gynhyrchiad rhyngwladol 'Y Babaeth'. Yna, tra gyda chwmni Green Bay Media, fe gynhyrchodd nifer o gyd-gynyrchiadau rhyngwladol megis 'Afonydd', 'Ynysoedd', 'Yr Anialwch' a dwy raglen i National Geographic; 'Saving Egypt's Oldest Pyramid' a 'London's Olympic Stadium'.
Ar ôl ffurfio ei chwmni ei hun - TiFiNi - yn 2012, ei gwaith cyntaf oedd cyd-gynhyrchiad i S4C, ITV Cymru a Foxtel Australia, sef 'Trysor Coll yr Royal Charter'. Fe gafodd ei chynhyrchiad nesaf, 'Finding Mum and Dad' i Channel 4, ganmoliaeth fawr gan gynnwys enwebiadau am wobrau Grierson a Broadcast yn 2014.
Yn 2016 mae hi wedi cynhyrchu rhaglen 'Revenge Porn' i Channel 4 ac mi fydd ei chyfres ddiweddaraf, 'City Road', am fywyd un o brif strydoedd Caerdydd, ar BBC1 Wales dros yr haf.
Fe hysbysebwyd swydd Comisiynydd Cynnwys S4C ym mis Mawrth 2016, ar ôl i Gyfarwyddwr Cynnwys a Darlledu'r sianel, Dafydd Rhys, ddatgan ei benderfyniad i gamu lawr ar ôl cyfnod o bum mlynedd yn y swydd.
Meddai Ian Jones; "Dwi am gymryd y cyfle i ddiolch eto i Dafydd Rhys am ei waith dros y bum mlynedd ddiwethaf. Yn ystod y cyfnod yma wrth y llyw mae wedi gwneud argraff fawr ar gynnwys a chynlluniau S4C. Rydw i'n dymuno'n dda iddo ar gyfer y dyfodol."
Diwedd