Eich tro chi i ddewis tîm ar gyfer Cynghrair Ffantasi Euro 2016
02 Mehefin 2016
Mae Chris Coleman wedi dewis ei garfan ar gyfer Euro 2016, ac nawr mae S4C yn rhoi'r cyfle i gefnogwyr hefyd ddewis eu tîm delfrydol - dychmygol - ar gyfer Cynghrair Ffantasi yn y Gymraeg.
Gyda phob carfan yn y gystadleuaeth bellach wedi ei dewis, heddiw, 2 Mehefin, mae S4C yn lansio Cynghrair Bêl-droed Ffantasi ar-lein sy'n rhoi'r cyfle i gefnogwyr ddewis eu tîm Euro 2016 eu hunain i gyd-fynd â darllediadau byw'r sianel o gemau Cymru yn y gystadleuaeth.
Mewn partneriaeth â'r sianel Wyddeleg TG4, mae S4C wedi lansio'r gystadleuaeth Bêl-droed Ffantasi ar-lein gyntaf sy'n caniatáu i chi chwarae yn y Gymraeg neu'r iaith Wyddeleg.
Meddai Huw Marshall, Pennaeth Datblygu Digidol S4C; "Mae'r prosiect yma yn deillio o'r rhwystredigaeth nad ydi'n bosib chwarae gemau fel hyn yn y Gymraeg. Doedd dim amdani ond mynd ati i greu un ein hunain, a pha well amser i'w lansio nag erbyn Euro 2016. Roeddem yn falch iawn o weithio gyda TG4 er mwyn cynnig y gêm yn Wyddeleg hefyd, ac yn gobeithio y bydd hyn yn arwain at gyfleodd eto i roi llwyfan i'r ddwy iaith ar-lein.
"Mae pawb yn gwybod pa mor bwysig yw Euro 2016 i hanes chwaraeon yng Nghymru, ac mae hi'n holl bwysig fod gemau Cymru ar gael i'r cefnogwyr yn fyw ac yn yr iaith Gymraeg ar S4C. Ar-lein, roedden ni eisiau cynnig profiad ychwanegol, i gyd-fynd â'r gystadleuaeth – cyfle i gefnogwyr gystadlu yn erbyn ei gilydd ac i allu gwneud hynny yn yr iaith Gymraeg, yn gwbl naturiol."
Ewch i s4c.cymru/ffantasi i greu eich tîm a chystadlu yn erbyn cefnogwyr pêl-droed ar draws y wlad. Mi fydd gennych £100,000,000 (dychmygol) i'w wario ar eich tîm delfrydol, a bydd cyfle i gyfnewid chwaraewyr wrth i'r gystadleuaeth fynd yn ei blaen.
Ac, wrth chwarae ar safle s4c.cymru/ffantasi, mae gwobrau ar gael i'r timau buddugol ar ddiwedd y gystadleuaeth – oriawr Apple, crys polo Cymru a pheli Euro 2016. Ewch i s4c.cymru/ffantasi i weld y rheolau yn llawn. Yn ogystal â chystadlu yn erbyn pawb ar y wefan, mi allwch hefyd greu eich cynghrair eich hunain a chystadlu yn erbyn eich ffrindiau.
Bydd safle S4C yn llwyr yn y Gymraeg, a gwefan TG4 yn y Wyddeleg. Bydd safle arall sy'n rhoi'r dewis i chwarae yn y Saesneg, i'r rhai sy'n dymuno gwneud hynny.
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?