13 Ionawr 2017
Bydd campwaith corawl Syr Karl Jenkins, sy'n nodi 50 mlynedd ers trychineb Aberfan, yn cael ei berfformio ar lwyfan fyd-enwog Carnegie Hall yn Efrog Newydd - y tro cyntaf iddo gael ei berfformio yn fyw yng ngogledd America gan rannu a chofio hanes Aberfan ar draws y byd.
Comisiynwyd y gwaith gan S4C, a'i greu gan y cyfansoddwr o Benclawdd Syr Karl Jenkins a'r Prifardd Mererid Hopwood. Fe'i perfformiwyd am y tro cyntaf erioed yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 8 Hydref 2016, gyda'r darllediad cyntaf ar S4C y noson ganlynol.
Mae'r gwaith, Cantata Memoria: Er mwyn y plant, wedi derbyn canmoliaeth eang gan gyrraedd brig y siartiau cerddoriaeth glasurol (Official Classical Artist Albums Chart).
Fe'i comisiynwyd er mwyn nodi 50 mlynedd ers trychineb Aberfan, pan laddwyd 144 o bobl, yn cynnwys 116 o blant Ysgol Pantglas. Mae'n ddarn o waith cerddorol a barddonol sy'n sefyll ar ei draed ei hun, ond sy'n deyrnged addas i'r gymuned sydd wedi adeiladu o'r newydd yn dilyn trasiedi, sydd wedi brwydro am gyfiawnder a throi tywyllwch yn oleuni.
"Mi fydd pwysigrwydd Cantata Memoria: Er mwyn y Plant yn oesol fel teyrnged barhaol i bobl Aberfan yn dilyn y trychineb ofnadwy hwnnw 50 mlynedd yn ôl," meddai Prif Weithredwr S4C, Ian Jones, fu'n arwain ar gomisiynu'r gwaith.
"Wrth i'r Cantata Memoria gael ei berfformio a'i glywed ar draws y byd, yn cynnwys y gyngerdd hon yn Neuadd Carnegie Efrog Newydd, bydd hanes cymuned Aberfan yn cael ei rannu a'i gofio. Roedd y profiad o ddod â'r gwaith yma yn fyw yn un wna i fyth ei anghofio. Rwy’ mor falch o'r campwaith mae Syr Karl Jenkins a Mererid Hopwood wedi ei greu, a bod S4C wedi bod yn rhan allweddol o'r prosiect ac mae'n enghraifft o ddyletswydd S4C fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus i gyfrannu at gof cenedl."
Ymhlith y perfformwyr yn y gyngerdd yn Neuadd Carnegie ar nos Sul 15 Ionawr, bydd côr o'r ysgol berfformio yng ngogledd Cymru, Côr Glanaethwy. Maen nhw yn ffurfio'r corws cymysg ynghyd â 14 côr arall o'r UDA a thu hwnt, gan gynnwys Y Ffindir, Yr Almaen a Swydd Sussex.
Ar gyfer y premiere yng ngogledd America, bydd casgliad o gantorion ac offerynwyr uchel eu bri, yn cynnwys y delynores Catrin Finch a'r chwaraewr Ewphoniwm, David Childs, oedd yn rhan o'r perfformiad gwreiddiol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym mis Hydref 2016.
Mae Cantata Memoria: Er mwyn y Plant wedi cael ei ryddhau ar ffurf albwm gan Deutsche Grammophon. Roedd cyngerdd Aberfan yn gynhyrchiad ar y cyd gan Ganolfan Mileniwm Cymru a MR PRODUCER ar ran Elusen Coffáu Aberfan ac wedi'i gynhyrchu ar gyfer y teledu gan Rondo Media i'w ddarlledu ar S4C.
Diwedd
Nodiadau i olygyddion:
Mae gwybodaeth lawn am holl berfformwyr y gyngerdd yn Neuadd Carnegie ar gael ar wefan Distinguished Concerts International New York: http://www.dciny.org/concerts/256115-2/
Adolygiadau Cantata Memoria: Er mwyn y plant
Albwm yr wythnos Classical FM – 7 Hydref 2016
http://www.classicfm.com/discover-music/album-reviews/7-october-2016/
"Though written to commemorate a specific and profoundly sad event, the emotions and themes in this special music resonates beyond, reflecting the universal sensation of loss and the journey from darkness to light."
Barn – Tachwedd 2016
"Profiad cwbl emosiynol oedd gwylio'r Cantata Memoria... Rhaid canmol penderfyniad golygyddol mor uchelgeisiol a chreadigol. Rhan o hanes cenedl yw Aberfan. Roedd y Cantata Memoria yn gyfraniad unigryw a phwysig gan S4C i nodi hanner canmlwyddiant y trychineb gan ysgogi balchder yn y Sianel yn ogystal ag ymatebion dwys ymhlith gwylwyr dros Gymru gyfan." – Sioned Williams
Record Review, Audiophile Audition – 14 Tachwedd 2016
"A magnificent cantata that will leave the listener moved… This is a magnificent and moving work. Beautiful, yet horrific in its rendering of this tragedy. The soloists, orchestra, and the conducting by Jenkins are all first rate…This stereo CD sounds very good… The strings and massed voices are very natural. There is plenty of low bass, and the sound never becomes congested during the highly dynamic parts of this work when the orchestra, chorus and soloists are together. The stereo image is very stable, and the soloists are placed realistically between my stereo speakers. "Cantata Memoria" is a major work, and deserving of your musical attention. The performance and recording are both of high quality… Highly recommended!" - Mel Martin