13 Chwefror 2017
Mae’r bwrdd arholi CBAC a'r sianel deledu S4C wedi dod at ei gilydd i greu heriau cyfathrebu cyffrous yn y gymuned fel rhan o gymwysterau Cenedlaethol/Sylfaen ac Uwch Bagloriaeth Cymru.
Bydd myfyrwyr mewn ysgolion a cholegau ledled Cymru yn dechrau ar sialensiau o hyrwyddo rhaglenni a gwasanaethau S4C ar y cyd gyda thîm cyfathrebu’r sianel gan fod Her y Gymuned bellach yn rhan o Her Tystysgrif Sgiliau ar gyfer Cyfnodau Allweddol 4 a 5.
Fe fydd modd i fyfyrwyr ysgolion cyfrwng Cymraeg a’r rhai sydd yn astudio Cymraeg ail-iaith i ymgymryd a'r heriau yn y ddwy Fagloriaeth. Mae’r Fagloriaeth ar gael i bob ysgol yng Nghymru.
Yr her i fyfyrwyr y Fagloriaeth Genedlaethol/Sylfaen Cyfnod Allweddol 4, blynyddoedd 10 ac 11, fydd cynorthwyo tîm cyfathrebu S4C drwy hyrwyddo rhaglenni a gwasanaethau S4C yn eu cymunedau.
Bydd disgwyl i'r myfyrwyr lunio cynllun marchnata yn egluro sut yn union y byddant yn mynd ati i roi gwybod i gymunedau Cymru am yr hyn sydd gan S4C i'w gynnig; pa raglenni, pryd maent yn cael eu darlledu a pha wasanaethau eraill sydd ar gael fel gwylio ar-lein ac ar alw, apiau, sain ddisgrifio ac isdeitlau.
Yr her i fyfyrwyr y Fagloriaeth Uwch Cyfnod Allweddol 5, blynyddoedd 12 a 13 yw denu mwy o bobl i wylio S4C ac o ganlyniad annog mwy o bobl i ddefnyddio’r Gymraeg.
Bydd angen iddynt gynllunio, trefnu a chynnal gweithgareddau neu raglen o ddigwyddiadau priodol ar gyfer y gymuned, prosiect sy'n golygu dros 30 o oriau am gyfnod o bedair wythnos o leiaf.
Yn y ddwy Her – yn y Fagloriaeth Genedlaethol/Sylfaen ac Uwch - fe fydd myfyrwyr yn gallu gweithio fel unigolion neu fel rhan o dîm (3-6 aelod) ac yn gallu defnyddio cyfres o gyfryngau digidol, cyfryngau cymdeithasol a phrint i hyrwyddo'r rhaglenni, cyfresi a gwasanaethau, gan ddysgu sgiliau newydd trwy dderbyn hyfforddiant gan dîm cyfathrebu S4C.
Dywedodd Caroline Morgan, Rheolwr Fframwaith Bagloriaeth Cymru. "Mae CBAC yn falch o gael lansio'r cyntaf o'r briffiau her sydd wedi eu llunio ar y cyd gydag S4C. Bydd ein myfyrwyr Bagloriaeth Cymru yn magu sgiliau a phrofiadau gwerthfawr trwy'r heriau cymuned sydd wedi cael eu gosod. Rydym yn falch iawn o gael cydweithio gydag S4C ar y prosiect cyffrous hwn fel rhan o Fagloriaeth Cymru."
Meddai Gwyn Williams, Cyfarwyddwr Cyfathrebu S4C, "Mae S4C bob amser yn chwilio am ffyrdd creadigol o gael pobl ifanc i ymwneud â gwasanaethau a rhaglenni'r sianel. Mae Her y Gymuned yn gyfle cyffrous iddynt hyrwyddo S4C ymysg gwylwyr potensial ledled Cymru. Trwy gydweithio gyda'n tîm cyfathrebu ni ac elwa ar arbenigedd addysgol CBAC, byddant yn meithrin sgiliau cyfathrebu amhrisiadwy ar gyfer yr oes ddigidol."