Mae cyfres a llyfr newydd wedi cael ei greu er mwyn helpu rhieni i ddysgu eu plant i adnabod a defnyddio llythrennau.
Mae’r llyfr, ‘Llythrennau Llawen Jen a Jim’, yn cyd-fynd â’r gyfres newydd Jen a Jim a’r Cywiadur fydd yn dechrau ar S4C ar 13 Mawrth 2017 ac yn rhan o wasanaeth Cyw. Mae Llythrennau Llawen Jen a Jim yn brosiect ar y cyd rhwng S4C, Boom Plant a Chanolfan Peniarth.
Dyma un o’r troeon cyntaf i adnodd addysgol gael ei gynhyrchu i gydfynd â rhaglen deledu sy’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau llythrennedd cynnar y plentyn. Wrth fwynhau’r llyfr a gwylio’r rhaglen law yn llaw, mae’n rhoi cyfle i’r plentyn ddysgu mewn sawl ffordd.
Mae Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys Plant a Phobl Ifanc S4C, wrth ei bodd yn gweld cymeriadau Cyw yn rhan ganolog o addysg plant; "Rydym yn falch iawn fod Canolfan Peniarth wedi cyfrannu eu harbenigedd ym maes addysg ac wedi datblygu adnoddau llythrennedd safonol i'w defnyddio gan ysgolion. Drwy gyd-weithio ag arbenigwyr ym maes addysg, mae Cyw a'i chymeriadau di-rif yn chwarae rhan ganolog yn natblygiad plentyn yn y blynyddoedd cynnar, ac yn rhan o'u bywydau pob dydd yn y cartref ac yn yr ysgol."
Dywedodd Llio Dyfri Jones, Pennaeth Cynorthwyol ac Arweinydd y Cyfnod Sylfaen yn Ysgol y Dderwen, Caerfyrddin, ac un o awduron y gyfrol; “Mae’n bwysig iawn fod y rhieni yn gallu cefnogi’r broses ddysgu yn y cartref, felly wrth lunio’r gyfrol hon, rydym wedi canolbwyntio ar greu cyfres o ymarferion hwyliog bydd y plentyn yn gallu mwynhau gyda ei rhiant.”
Mae’r gyfrol yn cynnwys Cywiadur sy’n esbonio sut i ynganu geiriau yn ffonetig, er mwyn galluogi rhieni di-Gymraeg i gynorthwyo eu plentyn gyda’r gweithgareddau. Meddai Gwydion Wynne, Cyfarwyddwr Canolfan Peniarth, “Erbyn heddiw, mae canran uchel o blant mewn nifer o ysgolion cyfrwng Cymraeg yn dod o gartrefi di-Gymraeg. Mae cynnwys yr elfen ffonetig yma yn allweddol felly er mwyn sicrhau bod modd i rieni fwynhau’r gweithgareddau gyda’u plentyn a chefnogi addysg eu plentyn yn ogystal, beth bynnag fo iaith yr aelwyd”.
Bydd y llyfr ar gael i’w phrynu o fis Mawrth ymlaen mewn siopau lleol ac ar wefan siop Canolfan Peniarth.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?