Mewn ymateb i’r newyddion fod Syr Karl Jenkins a’r Prifardd Mererid Hopwood wedi eu cyflwyno gyda Gwobr Arbennig y Prif Weinidog yn seremoni Gwobrau Dewi Sant neithiwr, nos Iau 23 Mawrth 2017, dywedodd Prif Weithredwr S4C Ian Jones:
"Rwy’n llongyfarch Syr Karl a Mererid yn gynnes iawn. Roedd eu camp yn creu Cantata Memoria: Er mwyn y plant yn crisialu galar a gobaith cenedl.
"Roedd Aberfan yn ddigwyddiad personol a chenedlaethol ac mae rheidrwydd ar ddarlledwr cyhoeddus i gofnodi cof cenedl - drwy Cantata Memoria fe lwyddodd Karl a Mererid i ddod a’r genedl at ei gilydd, yn deyrnged i’r rhai a gollwyd, ac yn obaith a goleuni i’r rhai a oroesodd. Yn ogystal â pherfformiad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru a’r darllediad ar S4C fe berfformiwyd y gwaith yn Neuadd Carnegie, Efrog Newydd gan rannu gyda’r byd gwewyr a gobaith Cymru.
"Fel yr un gomisiynodd y gwaith, rwy’n falch dros ben o lwyddiant creadigol Cantata Memoria ac yn llongyfarch Syr Karl a Mererid ar y wobr haeddiannol yma yn wresog iawn."
Diwedd
Nodiadau i olygyddion:
Comisiynwyd Cantata Memoria: Er mwyn y plant gan S4C er mwyn cofnodi 50 mlynedd ers trychineb Aberfan.
Roedd y perfformiad cyhoeddus cyntaf yn rhan o gyngerdd goffa yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar ddydd Sadwrn 8 Hydref, 2016.
Yn perfformio roedd y bas bariton Bryn Terfel, y soprano Elin Manahan Thomas, y delynores Catrin Finch, yr unawdydd ewffoniwm David Childs a'r feiolynydd Joo Yeon Sir gyda Sinfonia Cymru. Hefyd Côr Heol y March, Côr y Cwm, Côr Ysgol Gerdd Ceredigion, Côr Caerdydd, Côr CF1 a Cywair.
Fe ddarlledwyd y perfformiad ar S4C ar 9 Hydref; yn gynhyrchiad gan Rondo Media.
Cafodd y gwaith ei ryddhau gan Deutsche Grammophon gan gyrraedd brig y siartiau cerddoriaeth glasurol (Official Classical Artist Albums Chart).
Cafodd Canata Memoria ei pherfformio yn Neuadd Carnegie Hall ar 15 Ionawr 2017.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?