Gyda'r gwaith adeiladu wedi dechrau ar Ganolfan S4C Yr Egin ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, y gobaith yw y bydd tref Caerfyrddin yn datblygu’n ganolfan gyfryngau deinamig ar gyfer gorllewin Cymru.
Felly mae'n amser addas i dref Caerfyrddin gynnal Noson Gwylwyr S4C pan fydd pobl leol yn gallu cwrdd â swyddogion S4C ac aelodau'r Awdurdod. Mae'r noson yn cael ei chynnal nos Iau, 25 o Mai am 7.00pm yn Ystafell Cothi, Canolfan Halliwell, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Bydd Cadeirydd S4C, Huw Jones, Prif Weithredwr S4C, Ian Jones ac aelodau'r Awdurdod a'r tîm comisiynu yno i drafod rhaglenni a gwasanaethau S4C.
Hoffech chi weld mwy o raglenni ar gyfer pobl sy'n byw yn lleol yn Sir Gaerfyrddin? Ydych chi'n hoffi darllediadau chwaraeon y sianel? A fyddech chi'n hoffi gweld mwy o gyfresi drama ar y sianel? A yw'r gwasanaeth ar gyfer dysgwyr a’r ddarpariaeth is-deitlau yn ddigonol? Ac a oes digon o wasanaethau ar-lein?
Dyma'r math o gwestiynau y gallwch eu gofyn mewn trafodaeth agored a gonest rhyngoch chi, swyddogion S4C ac aelodau'r Awdurdod.
Dywedodd Cadeirydd S4C, Huw Jones, "Gyda S4C yn adleoli ei phencadlys i’r dref y flwyddyn nesaf, rydym yn edrych ymlaen at glywed barn pobl yr ardal am raglenni a gwasanaethau S4C. Mae'r sir eisoes yn ganolfan ar gyfer nifer o gynyrchiadau a chynhyrchwyr ac mae ei phobl a’i chymunedau wedi ysbrydoli llawer o gynyrchiadau mwyaf cofiadwy’r sianel dros y blynyddoedd. Rydym yn gobeithio y bydd sector cynhyrchu teledu a ffilm yn yr ardal yn parhau i dyfu ar ôl i bencadlys S4C symud i'r dref."
Mae amrywiaeth eang o raglenni a chyfresi S4C yn cael eu ffilmio yn Sir Gaerfyrddin. Yn ddiweddar, dechreuodd S4C a'r BBC ffilmio cydgynhyrchiad yn nhref Talacharn. Bydd y gyfres ddrama Un Bore Mercher / Keeping Faith, cynhyrchiad Vox Pictures ar gyfer S4C, yn ffilmio yn yr ardal yn ystod y misoedd nesaf gan ddarlledu ar y sianel ym mis Tachwedd eleni.
Ymhlith y cyfresi a ddarlledir yn rheolaidd yn Sir Gaerfyrddin mae’r rhaglenni cylchgrawn dyddiol, Heno a Prynhawn Da yn stiwdios Tinopolis yn Llanelli.
Mae croeso i bawb yn Noson Gwylwyr S4C. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael, a bydd offer cyfieithu a system ddolen yn cael eu darparu ar gyfer y rhai fydd eu hangen. Gallwch gyfrannu at y drafodaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Gwifren Gwylwyr S4C ar 0370 6004141 neu ar e-bost gwifren@s4c.cymru.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?