19 Mai 2017
Wrth i’r ymgyrch etholiadol boethi bydd S4C yn cynnig arlwy gynhwysfawr o raglenni amrywiol am y ras i 10 Stryd Downing ac ymgyrch Etholiad Cyffredinol 2017.
Bydd timau o gyflwynwyr, sylwebyddion a gohebwyr yn crwydro i bob cwr o Gymru er mwyn cynnig arlwy sy’n cynnig rhywbeth at ddant pawb . Byddant yn trin a thrafod y materion o bwys i’r etholwyr yn ogystal â chyfweliadau treiddgar, trafodaethau cynulleidfaol a dadansoddi trylwyr wrth i’r cyflwynwyr roi’r polisïau a’r partïon gwleidyddol dan y chwyddwydr.
BBC Cymru ac ITV Cymru sy’n darparu’r rhaglenni cynhwysfawr hyn i S4C gyda’r arlwy gyffrous yn cychwyn nos Fawrth, 23 Mai am 9.30 gyda rhaglen arbennig o Pawb a’i Farn o Fangor. Dewi Llwyd fydd wrth y llyw a bydd hefyd yn ymweld â Maesteg ar 25 Mai pan fydd y trigolion yno hefyd yn cael cyfle i leisio eu barn am y materion gwleidyddol sy’n eu poeni ar drothwy’r etholiad.
Bydd cynhyrchiad arall y BBC O’r Senedd yn darlledu ar S4C bob nos Fawrth am 10.00 drwy gydol yr ymgyrch ac yn dadansoddi’r holl ddigwyddiadau a’r dadlau gwleidyddol. Yn y rhaglen hefyd bydd Vaughan Roderick yn cynnig ei sylwebaeth unigryw ar y datblygiadau yn ystod Cwestiynau Prif Weinidog Cymru yn y Senedd.
Catrin Haf Jones a Dylan Iorwerth fydd wrth y llyw ar ran ITV Cymru Wales wrth iddynt gyflwyno tri rhifyn arbennig o Y Ras i 10 Stryd Downing bob nos Fercher am 9.30. Byddant yn rhoi’r arweinwyr gwleidyddol a’u polisïau dan y chwyddwydr yn ogystal â chael cwmni gwesteion arbennig fydd yn bwrw golwg ar waith y pleidiau gwleidyddol.
Bydd cyfle i’r ifanc leisio eu barn yn ystod yr ymgyrch hefyd gyda rhifyn arbennig o Hacio’n Holi o Abertawe. Sion Jenkins fydd yn cyflwyno rhaglen arbennig gyda chynulleidfa o bobl ifanc a phum cynrychiolydd o’r pleidiau gwleidyddol. Cyfle arbennig i’r gynulleidfa holi a herio'r pleidiau am y materion sy’n eu pryderu ar drothwy’r etholiad. Darlledir y rhaglen yma ar 1 Mehefin am 9.30.
Ar noson yr etholiad ac yn oriau mân 9 Mehefin, Dewi Llwyd a Vaughan Roderick fydd yn dod a’r canlyniadau a’r newyddion diweddaraf wrth iddynt gael eu cyhoeddi ac yn dadansoddi’r canlyniadau ymysg yr arbennigwyr.
Meddai Llion Iwan, Pennaeth Dosbarthu Cynnwys a Materion Cyfoes S4C;
“Mae rhaglenni S4C dros gyfnod yr etholiad yn eang a chynhwysfawr. Mae’r arlwy yn cynnig rhywbeth i bawb - o holi treiddgar i ddadansoddi craff, a sgyrsiau heriol. Bydd yn ganllaw cynhwysfawr i’n cynulleidfa dros gyfnod ymgyrchu Etholiad Cyffredinol 2017.”
Gweler amserlen S4C am fanylion llawn y darllediadau.