30 Mai 2017
Mae Tŷ Cerdd ac S4C yn cyd-weithio er mwyn darparu mynediad at daflenni cerddoriaeth werthfawr catalog Hughes a'i Fab.
Mae catalog taflenni cerddoriaeth Hughes a'i Fab yn cynnwys llawer iawn o hoff ganeuon yr iaith Gymraeg yn eu plith 'Gwahoddiad' (trefniant TTBB gan John Tudor Davies, sy'n cael ei ystyried yn glasur); 'Cân yr Arad Goch' (Idris Lewis); 'Aderyn Crist' (Dilys Elwyn-Edwards); 'Cwm Pennant', 'Gwynfyd', 'Y Llyn' (Meirion Williams), ynghyd â channoedd yn rhagor, yn eu plith mae darnau gan gyfansoddwyr arwyddocaol megis Joseph Parry, R. S. Hughes, ac W. S. Gwynn Williams.
Mae'r catalog wedi bod dan ofal S4C ers 1982 a nawr mae'r sianel wedi rhoi caniatâd i ail-osod y gwaith cerddorol mewn rhifynnau newydd gan Gyhoeddiadau Tŷ Cerdd, gyda'r nod o warchod harddwch ac eglurder y sgoriau gwreiddiol, yn ogystal â diweddaru elfennau gweledol y gerddoriaeth er mwyn cyd-fynd â'r arddull gyfredol.
Tŷ Cerdd yw'r asiantaeth hyrwyddo ar gyfer cerddoriaeth glasurol Gymreig. Meddai Deborah Keyser, cyfarwyddwr y sefydliad; "Rydym yn falch iawn o'r cydweithio hwn gydag S4C: pwrpas a nod Tŷ Cerdd yw cyflwyno cerddoriaeth Cymru i'r gynulleidfa ehangaf posib, ac mae catalog Hughes a'i Fab yn rhan werthfawr o'n treftadaeth genedlaethol. Ein nod yw sicrhau bod y darnau pwysig yma ar gael yn eang i'r cyhoedd." Meddai Ethan Davies, Swyddog Cyhoeddi Tŷ Cerdd: "Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at gloddio yn y drysorfa hon o gerddoriaeth Gymraeg ac i gael cyfrannu, mewn rhan fach, at alluogi perfformiadau parhaus o gerddoriaeth ein hanes diwylliannol."
Meddai Elin Morris, Cyfarwyddwr Corfforaethol a Masnachol S4C, fod y sianel yn falch o weithio gyda Tŷ Cerdd er mwyn darparu mynediad i'r cyhoedd at y casgliad yma, sy'n cael ei drysori fawr gan y sianel; "Rydym yn falch iawn o weithio ar y cyd â Tŷ Cerdd er mwyn rhoi ffordd haws i'r cyhoedd ddefnyddio cynnwys cerddorol catalog Hughes a'i Fab. Gyda'u harbenigedd a'u gwybodaeth eang, mi fydd trysorau'r casgliad unigryw hwn yn cael eu dwyn o'r archif ac yn cael eu diogelu ar gyfer y genedl am flynyddoedd i ddod."
Bydd copi llawn o'r catalog sy'n cael ei ail-hargraffu ar gael ar www.tycerdd.org (neu mae modd derbyn copi PDF ar gais drwy gysylltu â enquiries@tycerdd.org) ac mi fydd y sgôr yn cael ei werthu ar www.tycerddshop.com, tra bydd fersiynau digidol ar gael ar www.discoverwelshmusic.com
Mi fydd rhai darnau ar gael ar unwaith o www.tycerddshop.com a, cyn bo hir, www.discoverwelshmusic.com ac mi fydd rhagor o deitlau yn cael eu hychwanegu yn rheolaidd. I wneud cais am sgôr o'r catalog, cysylltwch â ethan.davies@tycerdd.org fydd yn gallu trefnu blaenoriaethu'r argraffiadau.
Diwedd