S4C yn croesawu cyd-gynhyrchwyr o Dde Corea i’w phencadlys
09 Mehefin 2017
Mae rhaglenni a gafodd eu cynhyrchu drwy gyd-gynyrchiadau rhyngwladol rhwng S4C a sianel deledu JTV o Dde Corea eisoes wedi denu miliynau o wylwyr ac wedi ennill nifer o wobrau.
Ac nawr mae’r ddwy sianel, ynghyd ag Asiantaeth Cyfathrebu Llywodraeth De Corea, wedi mynegi bwriad i weithio ar fwy o gyd-gynyrchiadau, wrth lofnodi Memorandwm o Gyd-ddealltriaeth newydd heddiw (Gwener, 9 Mehefin, 2017) yng Nghaerdydd.
Daeth cynrychiolwyr o JTV a KCA i bencadlys S4C yn Llanisien i lofnodi'r Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth ac i gwrdd ag aelodau o dîm comisiynu a gweithredol y sianel.
Mae'r tri sefydliad yn gobeithio gweithio ar eu pumed gyd-gynhyrchiad ers 2014, drwy ariannu cyfres deledu arfaethedig arall fydd yn cael ei chynhyrchu gan gwmni Rondo Media. Bydd y manylion yn cael eu datgelu cyn hir.
Meddai Llion Iwan, Pennaeth Dosbarthu Cynnwys a Chyd-gynyrchiadau Rhyngwladol S4C, "Rydym yn falch iawn i groesawu cynrychiolwyr o'n dau bartner yn Ne Corea, JVC a KCA, i bencadlys y sianel am y tro cyntaf erioed. Mae llofnodi'r Memorandwm hwn o Gyd-Dealltwriaeth yn dangos ein bwriad i adeiladu ar berthynas hynod lwyddiannus sydd wedi arwain at rai o raglenni dogfen mwyaf difyr y sianel yn y blynyddoedd diwethaf, at gynulleidfaoedd enfawr yn Ne Corea, ac at enwebiad Cymdeithas Deledu Frenhinol a Gwobrau Arian yng Ngwobrau Ffilm a Theledu Efrog Newydd. Mae'n anrhydedd eu croesawu yma yng Nghymru ar ôl inni dderbyn croeso mor gynnes yn Ne Corea y llynedd."
Cafodd nifer o’r comisiynau eu darlledu yn 2015 a 2016 a bydd cyfres ddogfen chwe rhan, Mynyddoedd y Byd - 6 x 60 yn dechrau ar S4C nos Sul 18 Mehefin. Mae’r gyfres, cynhyrchiad Green Bay Media, eisoes wedi ennill Gwobr Deauville Green.
Mae cynyrchiadau blaenorol yn cynnwys dwy raglen ddogfen am brofiadau milwyr Cymreig yn ystod Rhyfel Corea, sef Dagrau o Waed 1 x 60, a Gohebwyr: John Hardy, 1 x 60, a rhaglen arall yn y gyfres Gohebwyr, 1 x 60, pan wnaeth y darlledwr a'r awdur Jon Gower edrych ar hanes y cenhadwr Cymreig Robert Jermain Thomas a gyflwynodd Gristnogaeth i Gorea. Y llynedd, fe wnaeth rhaglen ddogfen am y ffotograffydd rhyfel Phillip Jones Griffiths, Philip Jones Griffiths: Ffotograffydd Fietnam (1 x 60) gael ei darlledu. Mae’r rhaglen eisoes wedi ennill Gwobr Ffilm a Theledu Efrog Newydd.
Bydd y ddau sefydliad o Gorea hefyd yn ymweld â digwyddiad cyfryngau pwysig, Sheffield Docufest.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?