Ffilmio’n dechrau ar gyfres dditectif newydd S4C a BBC Cymru
01 Awst 2017
Mae gwaith ffilmio wedi dechrau ar y gyfres dditectif ddiweddaraf o Gymru, Craith/Hidden, fydd yn cael ei darlledu y flwyddyn nesaf ar S4C a BBC Cymru.
Mae’r ddrama drosedd wyth rhan, sy’n cael ei ffilmio yng Ngogledd Cymru ar hyn o bryd, yn derbyn cefnogaeth y ddau ddarlledwr ac All3Media International. Bydd yn cael ei darlledu’n gyntaf ar S4C yn gynnar yn 2018 fel Craith. Bydd fersiwn ddwyieithog, Hidden yn dilyn yn ddiweddarach ar BBC One Wales.
A hithau wedi’i ffilmio gefn wrth gefn yn y Gymraeg a’r Saesneg, mae'r gyfres yn adrodd hanes ditectif DS Cadi John sy'n dychwelyd i Ogledd Cymru i ofalu am ei thad gwael ei iechyd. Fodd bynnag, pan mae corff dynes ifanc yn cael ei ddarganfod mewn afon leol, mae byd Cadi - a'r byd o'i chwmpas - yn cael ei newid am byth.
Mae’r cynhyrchiad Severn Screen hwn yn tynnu ynghyd Mark Andrew ac Ed Talfan, crewyr y gyfres, a’r cyfarwyddwr Gareth Bryn, sydd i gyd wedi gweithio ar y gyfres ddrama lwyddiannus Y Gwyll/Hinterland. Cynhyrchydd y gyfres yw Hannah Thomas.
Ymysg awduron y gyfres mae Mark Andrew, y nofelydd Caryl Lewis, sy’n enillydd amryw wobr lenyddol a Jeff Murphy, awdur sydd wedi ennill BAFTA Cymru.
Ymhlith y cast mae Sian Reese-Williams (35 Diwrnod, Y Gwyll/Hinterland, Requiem), Rhodri Meilir (Byw Celwydd, Pride), Gwyneth Keyworth (Game of Thrones, Wasted) a Sion Alun Davies (Endeavour, Y Gwyll/Hinterland).
Meddai Ed Talfan, Cyfarwyddwr Creadigol Severn Screen, “Rydym wrth ein boddau i fod yn ffilmio yng Ngogledd Cymru. Rwy’n gwybod o brofiad o saethu Y Gwyll/Hinterland yng nghanolbarth Cymru mor allweddol yw tirlun i ddiffinio cyfres. Rwy'n disgwyl i dirwedd syfrdanol Eryri a’r ardal o’i hamgylch i roi ei stamp ar y gyfres yn yr un modd.”
Meddai Gethin Scourfield, Comisiynydd Drama S4C: “Gyda thîm ysgrifennu a chynhyrchu mor wych, ynghyd â thirwedd a golygfeydd dramatig Eryri yn gefnlen i’r cyfan, mae Craith yn gyfres fydd yn cadw gwylwyr ar flaen eu seddi. Mae’r cast yn un hynod gryf a’r stori afaelgar yn sicr o roi gwefr a chyfareddu.”
Meddai Nick Andrews, Pennaeth Comisiynu BBC Cymru: “Dyma dîm sydd wedi ennill gwobrau, a dwi’n gwybod y gwnawn nhw gynhyrchu drama wefreiddiol arall.”
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?