Tri enwebiad Gwobrau Rhyngwladol Efrog Newydd i S4C
09 Chwefror 2018
Mae tair o raglenni S4C wedi derbyn clod rhyngwladol unwaith eto wrth gyrraedd rownd derfynol Gŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd 2018.
Wedi ei enwebu yng nghategori Portreadau Cymunedol mae Hen Blant Bach sy’n gynhyrchiad gan gwmni Darlun. Roedd y gyfres yn dangos arbrawf cymdeithasol arloesol a gafodd ei gynnal mewn canolfannau gofal ar draws Cymru wrth i blant meithrin rannu eu gofal dydd gyda chriw o bensiynwyr - a'r effeithiau trawsnewidiol sy'n bosib.
Mae drama drosedd ddwyieithog gyntaf S4C, Bang, wedi ei henwebu yng nghategori Drama Drosedd. Cafodd cynhyrchiad Joio ac Artists Studio, sydd wedi ei gwreiddio'n ddwfn yng nghymuned Port Talbot a Chwm Afan, ei hysgrifennu gan yr awdur Roger Williams ac mae’n dilyn stori am ŵr ifanc diymhongar a thawel sy’n gweld ei fywyd yn newid yn llwyr pan mae’n cael gafael ar wn.
Ac mae’r rhaglen ddogfen Colli Dad, Siarad am Hynna, cynhyrchiad BBC Cymru, wedi cael ei enwebu yng nghategori Materion Cymdeithasol. Mae’r ffilm bwerus a phersonol yn dilyn Stephen Hughes wrth iddo drafod a dod i dermau gyda hunanladdiad ei dad er mwyn deall pam ein bod ni'n ei chael hi mor anodd siarad am 'hynna'.
Meddai Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C, Amanda Rees: “Llongyfarchiadau i bawb ar yr enwebiadau. Mae tri enwebiad ar gyfer gwobrau rhyngwladol fel hyn yn bluen yn het S4C ac yn glod i'r sector gynhyrchu talentog sydd gennym ni yng Nghymru.
“Er ein bod ni’n canolbwyntio ar feithrin, dathlu a chefnogi’r diwydiannau creadigol yng Nghymru, mae cael y cyfle i godi proffil S4C, Cymru a'r iaith Gymraeg yn ar lwyfan rhyngwladol yn rhywbeth arbennig iawn ac yn destun balchder mawr.”
Mae S4C wedi profi llwyddiant yng Ngŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd yn y blynyddoedd diweddar. Y llynedd, Fe wnaeth y ffilm rymus Yr Ymadawiad a'r rhaglen ddogfen bwerus Philip Jones Griffiths: Ffotograffydd Rhyfel Fietnam greu argraff ar y rheithgor rhyngwladol o feirniaid gan ennill medal Arian yr un. Ac yn 2016, cipiodd y gyfres ddrama drosedd Y Gwyll/Hinterland y 'Grand Award'; gwobr sy'n cael ei rhoi i ddetholiad bychan o raglenni sydd wedi ennill sgôr uchel gan y beirniaid – o blith yr holl enwebiadau.
Mae gobaith am ragor o fedalau eleni pan fydd seremoni Gŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd 2018 yn cael ei chynnal yn Las Vegas ar 10 Ebrill.
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?