Naw enwebiad Celtaidd i S4C ar flwyddyn croesawu'r Ŵyl i Gymru
07 Mawrth 2018
Mae S4C wedi derbyn naw enwebiad ar gyfer Gwobrau Gŵyl Cyfryngau Celtaidd 2018.
Eleni, mae’r ŵyl sy'n hyrwyddo ieithoedd a diwylliannau gwledydd Celtaidd yn y cyfryngau yn cael ei chynnal yn Llanelli rhwng 2-4 Mai.
Fe fydd cynhyrchwyr y ddrama drosedd boblogaidd Bang (Joio), yn brwydro am wobr yn y categori Cyfres Ddrama tra bod y ffilm Nadolig Albi a Noa yn Achub yr Iwnifyrs (Boom Cymru) wedi ei enwebu am wobr Drama Sengl.
Mae rhaglenni adloniant y sianel wedi gwneud argraff fawr ar y beirniaid wrth i Y Salon (Boom Cymru) a rhaglen Côr Cymru 2017 – Ieuenctid (Rondo Media) gael eu henwebu yn y categori Adloniant. Mae dwy raglen arall, yr arbrawf cymdeithasol mewn gofal rhwng cenedlaethau, Hen Blant Bach (Darlun), a thaith côr enwog i ochr arall y byd, Only Men Aloud yn Bollywood (Boom Cymru), wedi eu henwebu yn y categori Adloniant Ffeithiol.
Profiad personol Dylan Llewelyn o Bwllheli, wrth iddo edrych 'nôl ar drychineb Hillsborough, yw testun y ddogfen Hillsborough: Yr Hunllef Hir (Rondo Media) ac fe fydd yn gobeithio ennill yn y categori Dogfen Chwaraeon.
Y gyfres hynod boblogaidd am efeilliaid direidus a'u pwerau hudol sydd wedi derbyn enwebiad yn y categori Plant, Deian a Loli a’r Bwci Bo (Cwmni Da), gan obeithio ychwanegu tlws arall i'r casgliad yn dilyn ennill gwobr BAFTA Cymru yn 2017.
Ac mae’r ffilm bwerus a phersonol Colli Dad: Siarad am Hynna (BBC Cymru), ble mae Stephen Hughes yn trafod hunanladdiad ei dad ac a gafodd ei ddarlledu fel rhan o Wythnos Iechyd Meddwl S4C, wedi ei enwebu yn y categori Cyfres Ffeithiol.
Meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C: “Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cael eu henwebu ar gyfer gwobrau’r ŵyl eleni. Mae amrywiaeth y cynyrchiadau ar y rhestr fer yn adlewyrchu safon y rhaglenni ar draws yr amserlen. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at groesawu gweddill y gwledydd Celtaidd i’r ŵyl yn Llanelli ym mis Mai.”
Mae tri o'r cynyrchiadau ar restr yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd hefyd yn gobeithio am wobr mewn gŵyl ryngwladol yn yr UDA. Mae'r ddrama Bang a'r rhaglenni dogfen Hen Blant Bach a Colli Dad: Siarad am Hynna wedi eu cynnwys ar restr fer Gŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd 2018, sy'n cael eu cynnal yn Las Vegas ar 10 Ebrill.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?