Gwyliwch sêr rygbi’r dyfodol wrth i S4C ddarlledu yn fyw o gystadleuaeth 7 Bob Ochr Urdd WRU 2018
14 Mawrth 2018
Bydd caeau Pontcanna a Llandaf yng Nghaerdydd yn fwrlwm o weithgaredd yr wythnos yma wrth i ferched a bechgyn ysgolion cynradd, uwchradd a cholegau ledled Cymru ddod at ei gilydd ar gyfer y gystadleuaeth rygbi 7 bob ochr ieuenctid mwyaf erioed yng Nghymru.
Am y tro cyntaf eleni bydd S4C yn darlledu rowndiau terfynol y gystadleuaeth yn fyw, ar dudalen Facebook S4C Chwaraeon.
Bydd y darllediadau byw yn cael ei gynnal rhwng 4.00 a 6.00 ar ddydd Iau, Mawrth 15 a rhwng 3.00 a 5.00 ar ddydd Gwener 16 o Fawrth, gyda Lauren Jenkins yn cyflwyno a Rhys ap William yn sylwebu.
Dywedodd Owen Evans, Prif Weithredwr S4C, “Mae’r gystadleuaeth yma yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn ysgol i ddisgyblion ledled Cymru, ac mae’n bleser ein bod ni’n gallu bod yn rhan o’r diwrnod. Rydym yn falch iawn o allu cynnig llwyfan cenedlaethol i rai o sêr dyfodol y gamp.”
Dros y blynyddoedd, mae nifer o sêr rygbi wedi meithrin eu sgiliau yn cystadlu yn y twrnamaint. Yn eu plith mae, Rhys Patchell, seren Cymru a’r Scarlets.
Meddai Rhys Patchell; “Mae gen i lawer o atgofion da o gystadlu yn nhwrnamaint
7 bob ochr yr Urdd URC drwy gydol fy amser yn Ysgol Glan Taf, gan gynnwys y profiad o chwarae yn y rownd derfynol ar Barc y Strade.
"Mae safon y chwarae yn arbennig, ac roedd hi wastad mor braf gweld cymaint o ddisgyblion yn cymryd rhan.
"Dwi’n ffodus o fod wedi cael profiadau eang drwy’r Urdd, sydd wedi dysgu i mi yn arbennig sut i gystadlu ar lwyfan mawr, cenedlaethol.
"Mae hi’n braf gweld cymaint mae’r gystadleuaeth wedi tyfu, a gweld dewiswyr 7 bob ochr Cymru yn mynd draw i weld y dalent newydd sy’n dod trwyddo.”
Yn dilyn y gystadleuaeth y llynedd, fe aeth rhai o’r merched a bechgyn ymlaen i chwarae dros dîm Saith-bob-ochr Cymru o dan 18, timau Dosbarth Oedran Rhanbarthol a chlybiau Uwch Gynghrair y Principality mewn rhai achosion.
Yn ogystal â chynyddu cyfleoedd cyfranogaeth, mae rygbi saith-bob-ochr hefyd yn cynnig llwybr i chwarae’r gêm ar lefel elît, a hyd at y Gemau Olympaidd.
Does wybod pa sêr fydd yn dechrau eu gyrfaoedd rygbi ar y maes yr wythnos hon, a hynny o flaen camerâu S4C. Gwyliwch y sylw yn fyw ar Facebook S4C Chwaraeon, rhwng 4.00 a 6.00 brynhawn Iau a Gwener, 15 a 16 Mawrth, 2018.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?