27 Mawrth 2018
Mae S4C wedi cyhoeddi'r gyfres deledu gyntaf yn y Gymraeg sy'n ystyried anghenion plant awtistig. Mi fydd Oli Wyn yn dechrau ar S4C yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth Fyd-eang, rhwng 26 Mawrth a 2 Ebrill.
Cyfres am gerbydau, cheir a pheiriannau o bob maint a siâp yw Oli Wyn; cyfres newydd ar wasanaeth Cyw ar gyfer plant rhwng 3 a 6 mlwydd oed sy’n hoffi pethau sy’n symud.
Bydd plant o bob gallu yn gwirioni ar ddysgu sut mae peiriannau yn gweithio yng nghwmni'r pyped cath Oli Wyn. Mae'r gyfres yn dechrau ar fore Gwener 30 Mawrth ac, ym mhob rhaglen, mae Oli Wyn yn ein cyflwyno i ffrind sy’n gweithio gyda pheiriannau, yn cynnwys lori biniau, injan dân, a pheiriant sy’n golchi cerbydau trên.
Tra bod llawer iawn o blant yn mopio ar gerbydau, mae'n ddiddordeb sy'n apelio hefyd at lawer o blant sy'n byw gydag awtistiaeth, oherwydd eu tuedd i gael diddordebau arbennig, a’u hoffter o drefn, mecanwaith a sut mae pethau’n gweithio.
Drwy gydweithio gyda Chymdeithas Awtistig Genedlaethol Cymru (National Autistic Society Wales), mae'r cwmni cynhyrchu, Cynyrchiadau Twt, wedi rhoi ystyriaeth i anghenion plant awtistig.
Meddai Siwan Jobbins, o Cynyrchiadau Twt sy’n cynhyrchu Oli Wyn; "Cerbydau o bob siâp, maint a sŵn yw atyniad cyfres Oli Wyn, ac rwy'n gobeithio y bydd plant yn mwynhau darganfod symudiadau a synau'r cerbydau, wrth ddysgu am y tasgau maen nhw yn ei wneud. Ces i’r syniad am y gyfres wrth dreulio amser gyda fy nai sy’ wrth ei fodd gyda cherbydau. Mae’n syndod faint mae plant yn ei wybod ac yn ei ddeall am gerbydau.”
Bu'r Gymdeithas Awtistig yn gymorth wrth greu’r gyfres drwy esbonio bod awtistiaeth yn gyflwr sy’n effeithio pob unigolyn yn wahanol ond bod yna nodweddion sy’n gyffredin i bawb sydd â’r cyflwr.
Ymysg y cyngor oedd gwybodaeth am yr effaith mae awtistiaeth yn ei gael ar y synhwyrau. Mae hyn yn cynnwys synau cefndir, sy'n gallu bod yn annioddefol o uchel gan dynnu oddi ar y gallu i fwynhau’r rhaglen, ac i sicrhau fod digon o rybudd cyn synau annisgwyl, fel sŵn trên yn canu ei gorn.
Dywedodd Meleri Thomas o’r Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru; “Roedd hi’n wych cael y cyfle i gyd-weithio ar y prosiect yma. Hoffwn ddiolch i Gynyrchiadau Twt am fod mor barod i wrando ar ein cyngor a mynd ati i greu cyfres deledu yn y Gymraeg sy’n rhoi anghenion plant awtistig wrth wraidd y broses greadigol. Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd plant awtistig, a’u teuluoedd yn mwynhau dilyn hynt a helynt Oli Wyn a gweld sut mae’r peiriannau gwahanol yn gweithio.”
Oli Wyn yw'r gyfres gyntaf ar S4C sydd wedi ystyried anghenion plant sy'n byw gydag awtistiaeth. Yn 2012, y gyfres Dwylo'r Enfys ar S4C oedd y rhaglen gyntaf yn yr iaith Gymraeg i gyflwyno iaith arwyddo Makaton i blant bach, er mwyn helpu sgiliau cyfathrebu. Mae'r ddwy yn gyfresi gwerthfawr sy'n rhan o becyn eang o raglenni a chynnwys digidol lliwgar ac addysgiadol sy'n cyflwyno llythrennedd, rhifedd a sgiliau bywyd i bob plentyn yn y Gymraeg.
Meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys Plant S4C; “Ein nod yw creu rhaglenni sy’n hwyl, sy'n ffres ac sy'n helpu plant bach a'u teuluoedd. 'Da ni’n gobeithio y bydd Oli Wyn yn apelio at bob plentyn sy'n gwirioni ar fecanwaith a threfn ac rydym yn ddiolchgar i'r Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru am eu cyngor wrth i ni ystyried anghenion arbennig mewn ffordd sy'n gynhwysol. Ar flwyddyn pen-blwydd Cyw yn 10 oed, mae'r gwasanaeth yn parhau i dorri tir newydd ac yn gwahodd pob plentyn i chwarae, dysgu a chwerthin yn y Gymraeg.”
Yn y rhaglen gyntaf, ar fore Gwener 30 Mawrth, byddwn yn Abertawe yn gweld sut mae Nathan yn paratoi ac yn llwytho ei lori arbennig i gario ceir ar daith hir. Mae’r bennod gyntaf yn cyd-fynd ag Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth Fyd-eang, ac mae deg pennod – a deg cerbyd gwahanol - yn y gyfres i gyd.