19 Ebrill 2018
Bydd S4C yn gwario £3 miliwn yn ychwanegol dros y tair blynedd nesa' ar ddatblygu strategaeth ddigidol y sianel "er mwyn cyflawni mwy ar gyfer ein gwylwyr."
Dyma y mae Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones, wedi ei gyhoeddi wrth ymateb i rai o argymhellion Adolygiad Annibynnol yr Adran Ddigidol Diwylliant Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) i S4C.
"Mae'n fwriad gennym i wario £3 miliwn dros y tair blynedd nesaf ar y strategaeth ddigidol yn benodol – ar ben beth sy'n cael ei wario ar hyn o bryd. Mae'r swm yma yn uwch, fel canran o'n hincwm, na'r hyn y mae Channel 4, er enghraifft, yn ei wario," meddai Huw Jones.
Roedd Huw Jones, a Phrif Weithredwr S4C Owen Evans yn trafod cynnwys yr Adolygiad gyda'i awdur, Euryn Ogwen Williams, mewn digwyddiad a drefnwyd ar y cyd â RTS Cymru yng Nghaerdydd ar nos Iau, 19 Ebrill.
Yn ei anerchiad agoriadol, nododd Cadeirydd y Sianel, Huw Jones, fod yr adolygiad "yn gam allweddol yn y broses o edrych i'r dyfodol", ac yn garreg filltir bwysig wrth i S4C symud at greu "gwasanaeth sy'n mynd i gyflawni mwy ar gyfer ein gwylwyr, yn enwedig yn ddigidol".
"Dydi'r cyfeiriad digidol sy'n cael ei grybwyll yn yr adolygiad ddim yn newydd i ni," meddai Huw Jones, gan ddatgelu fod Awdurdod S4C eisoes wedi cymeradwyo camau sylfaenol tuag at gyfeiriad newydd i'r sianel wrth gysylltu â'i gwylwyr.
"Mae’r ffordd y mae'r byd digidol yn effeithio ar arferion gwylio cynulleidfaoedd yn gwbl amlwg, ac mae'r dechnoleg yn ein galluogi ac yn ein cymell ni fel darlledwyr i geisio cyfathrebu un-wrth-un yn hytrach na hysbysebu'n dorfol yn unig. Byddwn yn symud o gynnig un sianel sydd angen cynnwys dipyn o bopeth i bawb, i allu cynnig gwasanaeth personol i wylwyr unigol. Dyma'r ffordd ymlaen."
Bydd hyn yn golygu gwella ac ymestyn y gwasanaeth gwylio ar-lein, S4C Clic, ac amrywio ar ffurfiau'r cynnwys sy'n cael ei gynnig - ffurf hir, ffurf fer a ffurf ganolig. A bydd S4C yn gweithio er mwyn dod i adnabod y gwylwyr yn well un-wrth-un, er mwyn gallu creu hafan neu wasanaeth personol i bawb.
Gan nodi llwyddiant Hansh ar lwyfannau Facebook ac YouTube i gyrraedd cynulleidfa darged 16-34 oed, bydd S4C yn gobeithio adeiladu ar y model hwn, yn ogystal â datblygu dulliau newydd a'r gwasanaeth presennol. Wrth dyfu a datblygu'r gallu i ddarparu ar gyfer cynulleidfa yfory, bydd rhaid hefyd darparu ar gyfer heddiw. Mi fydd hyn yn golygu gwneud "penderfyniadau strategol a phenodol", meddai Huw Jones, wrth geisio pontio rhwng y naill gyfundrefn a'r llall.
Wrth gynllunio at y dyfodol, mae'r adolygiad wedi atgyfnerthu un peth sy'n llinyn cyson drwy hanes S4C ers ei sefydlu - sef ei rôl ym mywyd yr iaith Gymraeg. Wrth gloi, meddai Huw Jones;
"Mae'r adolygiad wedi codi nifer o gwestiynau ac argymell nifer o newidiadau. Ond un peth nad yw'n cael ei argymell yw unrhyw newid i genhadaeth unigryw S4C o ddarparu gwasanaeth trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Mae hi wastad wedi bod yn synnwyr cyffredin fod gan S4C rôl i'w chwarae yn natblygiad yr iaith. Yn awr mae yna gefnogaeth glir gan Lywodraeth San Steffan i hyn, ond fe fydd yn bwysig iawn hefyd ein bod yn gallu diffinio'n glir beth mae hynny yn ei olygu a sut mae cymhathu'r rôl yma gyda chyfrifoldebau darparu gwasanaeth cyfryngol ym mha bynnag siâp am flynyddoedd i ddod."
Mae'r sianel eisoes yn paratoi ei hymateb llawn ar gyfer holl argymhellion yr Adolygiad, fydd yn cael ei gyflwyno i’r Adran Ddigidol Diwylliant Cyfryngau a Chwaraeon1 erbyn Gorffennaf. Ond mi fydd y sianel yn aros tan hynny cyn gweithredu, a dros y misoedd nesaf, fe fydd elfennau pellach o strategaeth S4C yn cael eu cyhoeddi a'u trafod, wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen.
Diwedd