16 Mai 2018
Mi fydd cyfres ddrama wleidyddol S4C, sydd wedi diddanu gwylwyr ers dros ddwy flynedd, nawr yn cael ei chyflwyno i gynulleidfa deledu enfawr yn yr UDA ac yng Nghanada.
Mae'r gyfres Byw Celwydd, sydd wedi'i gosod a'i ffilmio yn rhannol yn y Senedd ym Mae Caerdydd, wedi cael ei gwerthu i'r darlledwr cyhoeddus Americanaidd, MHz Networks.
Mae'r darlledwr yn arbenigo yn bennaf mewn darparu cyfresi a ffilmiau rhyngwladol, ac mae'r gwasanaeth ar gael yn eang ledled yr UDA a Chanada.
Mi fydd y ddwy gyfres gyntaf yn cael eu dangos gan MHz Networks, ac mae Tarian a Videoplugger yn trafod opsiynau ynghylch y drydedd gyfres ar hyn o bryd, yn dilyn ei dangos ar S4C yn hwyrach eleni. Yn America a Chanada, fe fydd yn cael ei darlledu yn Gymraeg gydag isdeitlau Saesneg ar y sgrin.
Cafodd y gwerthiant ei drefnu gan y dosbarthwyr Videoplugger, dan arweiniad perchennog y cwmni, Emanuele Galloni.
Syniad Branwen Cennard, cyfarwyddwr cwmni Tarian Cyf, a'r diweddar ddramodydd Meic Povey yw'r gyfres, sy'n dilyn cymeriadau ffuglennol llywodraeth glymblaid enfys.
Mae Byw Celwydd yn adrodd hanes y berthynas rhwng grŵp o bleidiau gwleidyddol ffuglennol yn Llywodraeth Cynulliad Cymru, ynghyd â'u cynghorwyr arbennig a'r newyddiadurwyr gwleidyddol o'u cwmpas.
Ymhlith sêr y gyfres mae Matthew Gravelle, a oedd yn serennu yn nrama Broadchurch ITV, ac sy'n chwarae rhan y cynghorydd arbennig Harri James; a'r actores Catherine Ayers, sy'n chwarae'r newyddiadurwr Angharad Wynne.
Dywedodd Cynhyrchydd Byw Celwydd, Branwen Cennard, "Rwy'n teimlo'n falch iawn fod cynhyrchiad hollol Gymraeg, wedi'i ysgrifennu a'i ffilmio mewn cyd-destun cwbl Gymreig, wedi dal dychymyg darlledwr ar draws yr Iwerydd. Mae'n adlewyrchu'r gwerthoedd cynhyrchu uchel sy'n gysylltiedig â Byw Celwydd a gynhyrchwyd ar gyllideb lawer is na'r rhan fwyaf o gyfresi drama deledu ac yn profi y gall cynhyrchwyr Cymru greu cyfresi sydd ag apêl ryngwladol eang."
Wrth siarad am awdur y gyfres Meic Povey, a fu farw ym mis Rhagfyr y llynedd, dywed, "Fe fyddai Meic wedi bod mor falch o glywed y newyddion yma, mae'r gwerthiant yn deyrnged iddo ac i'r cast a'r criw gwych, dan arweiniad y cyfarwyddwr talentog, Gareth Rowlands."
Mae'r darlledwyr, MHz Networks yn gwmni cyfryngau byd-eang, a'i arbenigedd yw cyflwyno rhaglenni rhyngwladol o'r safon uchaf i gynulleidfaoedd yn America a Chanada, ac maent yn hyderus y bydd Byw Celwydd yn taro'r marc.
Meddai Lance Schwults ar ran MHz Networks, "O'r diwedd, mae America wedi cael ei denu gan raglenni teledu gwych o Gymru ac rydym yn falch o groesawu Byw Celwydd i wasanaeth MHz Choice. O ystyried sefyllfa wleidyddol America ar hyn o bryd, mi fydd themâu'r gyfres hon, sy'n cynnwys cecru, twyll a llygredd gwleidyddol, yn cynnig chwa o awyr iach yng nghanol cecru, twyll a llygredd ein gwleidyddiaeth ein hunain. Dyma gyfres gyflym a chlyfar, o safon ragorol, ac rwy'n hyderus y bydd ein gwylwyr ni yn ei charu."
Mae Byw Celwydd wedi derbyn ymateb ffafriol iawn ar y farchnad fyd-eang, yn ôl y cwmni dosbarthu Videoplugger.
Meddai Emanuele Galloni, Prif Weithredwr Videoplugger, "Ry' ni'n falch iawn bod Byw Celwydd yn denu cymaint o sylw gan ddarlledwyr byd-eang, er nid oedd hynny'n syndod i ni chwaith. Mae MHz yn llwyfan delfrydol yn yr UDA am eu bod nhw'n dewis dangos y gorau o blith cyfresi teledu Ewropeaidd.
"Roeddem ni wedi'n plesio'n fawr gan Byw Celwydd o'r dangosiad cyntaf ac yn falch iawn o allu cyfrannu at ei llwyddiant rhyngwladol drwy weithio gyda Tarian. Mae hi'n gyfnod arbennig i ddramâu Celtaidd ac mi fyddwn ni'n parhau i gefnogi a buddsoddi ein hamser mewn cynyrchiadau annibynnol o safon uchel."
Meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, "Mae hyn yn sgŵp aruthrol i Byw Celwydd ac i ddramâu gwreiddiol yn yr iaith Gymraeg. Mae'n wych fod y gyfres hon yn mynd i fod ar gael i bobl sy'n caru dramâu yng Nghanada ac yn yr UDA, ac rwy'n siŵr y bydd y gwylwyr yno yn mwynhau'r straeon gafaelgar fel y mae gwylwyr S4C wedi gwneud dros y ddwy gyfres ddiwethaf."
Mi fydd trydedd gyfres Byw Celwydd yn cael ei darlledu ar S4C ym mis Medi 2018.
Diwedd