Creu Cynllun Gwaith addysgol i nodi pen-blwydd Cyw
29 Mehefin 2018
Mae cynllun gwaith addysgol wedi ei lunio ar gyfer plant oed meithrin a disgyblion blynyddoedd cynnar ysgolion cynradd fel rhan o ddathliadau pen-blwydd gwasanaeth Cyw S4C yn ddeg oed yr haf yma.
Wedi'i gomisiynu gan S4C a'i greu a'i ddylunio gan gwmni adnoddau addysgol Canolfan Peniarth o Gaerfyrddin, mae'r pecyn addysgol ar gael ar-lein ar s4c.cymru/cyw ar gyfer athrawon cynradd Cymraeg a Saesneg ac arweinwyr grwpiau meithrin ledled Cymru.
Cafodd y pecyn lliwgar, hwyliog ei lunio i gyd-fynd â Fframwaith Proffil y Cyfnod Sylfaen Blynyddoedd Cynnar y cwricwlwm ac mae'n llawn gweithgareddau gwreiddiol a pherthnasol. Mae cynllun gwaith S4C Cyw yn datblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd, gan annog disgyblion ifanc i weithio'n annibynnol a datblygu creadigrwydd.
Yn ogystal â'r cynllun gwaith, mae taflenni gweithgareddau ar gael ar ffurf PDF ar y we.
Dywedodd Comisiynydd Cynnwys S4C, rhaglenni plant, Sioned Wyn Roberts, "Rydym yn falch iawn o gael lansio'r Cynllun Gwaith addysgol hwn i gyd-fynd â dathliadau pen-blwydd Cyw. Mae'n sicr o ychwanegu at fwynhad rhaglenni plant S4C ar gyfer pob disgybl meithrin a blynyddoedd cynnar sy'n siarad neu’n dysgu siarad Cymraeg. Mae'n hufen ar y gacen ben-blwydd!!”
Dywedodd Cyfarwyddwr Canolfan Peniarth, Gwydion Wynne, "Mae'r comisiwn wedi bod yn gyfle amhrisiadwy i weithio ochr yn ochr ag S4C i ddathlu un o gymeriadau mwyaf blaenllaw’r sianel trwy lunio cynnwys addysgol, hwyliog Cymraeg i blant 2-5 oed mewn lleoliadau addysgol gwahanol ledled Cymru a chodi ymwybyddiaeth o Cyw yng nghartrefi pobl Cymru."
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?