S4C yn bachu hawliau Guinness PRO14 am y tair blynedd nesaf
24 Gorffennaf 2018
Bydd gemau rygbi Guinness PRO14 yn yr iaith Gymraeg ar S4C am y tair blynedd nesaf.
Mae cytundeb rhwng S4C a Celtic Rugby, yn golygu y bydd gemau Guinness PRO14 ar S4C bob wythnos yn ystod y tymor arferol. Fe fydd gemau ar gael i’w gwylio’n fyw ar deledu ac ar-lein drwy wasanaeth S4C Clic, ac mi fydd y sylwebaeth ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig.
Bydd 17 o gemau’r tymor yn fyw ar S4C, sy’n cynnwys gemau darbi dros gyfnod y Nadolig a’r Calan ac os yw rhanbarth o Gymru yn cyrraedd y rownd derfynol mi fydd y gêm fawr honno hefyd yn fyw ar S4C. Mi fydd gemau eraill hefyd yn cael eu dangos yn llawn, ond nid yn fyw.
Mae’r cytundeb yn sicrhau y bydd gemau ar gael yn y Gymraeg ac am ddim i ddilynwyr rygbi.
Dywedodd Owen Evans, Prif Weithredwr S4C: "Rydym yn falch iawn bod S4C yn mynd i barhau i ddangos gemau pedwar rhanbarth Cymru yn y Guinness PRO14, sef un o gystadlaethau rygbi gorau’r byd.
"Mae’r cytundeb dair mlynedd yma yn tanlinellu ein hymrwymiad i ddarlledu rygbi drwy’r iaith Gymraeg a’r gobaith yw bod y cyhoeddiad yma yn newyddion da i holl gefnogwyr rygbi Cymru. Mae’n bwysig i ni ac i gynulleidfa S4C ein bod ni’n gallu parhau i ddangos y Guinness PRO14 yn rhad-ac-am-ddim."
DIWEDD
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?